R Alun Evans
Mae un o hoelion wyth yr Eisteddfod Genedlaethol, a Llywydd presennol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn galw ar Eisteddfodwyr i weiddi ‘Heddwch’ gydag arddeliad ym Mhrifwyl Sir Gâr.

Yn ôl y Parchedig Ddr R Alun Evans, fe fydd gan floedd draddodiadol cynulleidfa’r pafiliwn arwyddocâd arbennig eleni, o gofio beth sy’n digwydd yn Gaza.

“Fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg rwy’n erfyn ar gynulleidfa’r Eisteddfod i floeddio ‘Heddwch’ gyda’r fath angerdd fel y bydd Llywodraeth Israel ac arweinwyr Hamas yn clywed,” meddai.

“Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraethau Prydain ac America i roi’r gorau i werthu arfau i Lywodraeth Israel ac i wneud mwy na datgan pryder am y sefyllfa yn Gaza.”

Wrth gyfeirio at yr Wylnos Genedlaethol sydd i’w chynnal ger pabell Cymorth Cristnogol ar y Maes nos Fawrth, meddai eto: “Fe fyddaf, gyda miloedd eraill gobeithio, yn dangos cefnogaeth i’r Palestiniaid yn y sefyllfa bresennol cwbl warthus lle mae plant yn cael eu targedu mewn ysbytai ac ysgolion.”