Daeth tua 100 o bobl ynghyd yn nhref Caerfyrddin neithiwr mewn Gwylnos Heddwch dros Gaza. Roedd y dorf wedi ymgynnull wrth dŵr y cloc ger Marchnad Caerfyrddin erbyn wyth er mwyn galw am roi diwedd ar y trais.

Yn siarad yn y digwyddiad, ymhlith eraill, roedd yr awdur Catrin Dafydd, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, y Prifardd Mererid Hopwood a’r bardd yr Athro Menna Elfyn.

Meddai Catrin Dafydd, un o’r rhai oedd yn siarad yn yr wylnos: “Fel y digwyddiadau a’r gorymdeithiau ledled Cymru a’r byd dros yr wythnos diwethaf, mae pobl Caerfyrddin a’r ardal gyfagos wedi dod at ei gilydd i gydsefyll gyda phobl Gaza.

“Mae’n hollbwysig fod dinasyddion Cymru yn codi eu llais yn erbyn yr hyn sy’n digwydd ac yn condemnio gweithredoedd Israel. Mae’r wylnos heno yn gyfle i sicrhau ein bod yn ychwanegu ein lleisiau at y miliynau o leisiau eraill dros y byd sy’n galw am heddwch.”

Daw gwylnos Caerfyrddin yn dilyn digwyddiadau tebyg ar hyd a lled y wlad yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys ym Mangor, Caerdydd, Wrecsam, a Machynlleth. Roedd tair mil yn gorymdeithio yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn yn galw am ryddid i Balesteina.