Gerallt Lloyd Owen (Llun: Tudur Dylan Jones)
Bydd digwyddiad coffa i Gerallt Lloyd Owen yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Babell Len ar ddydd Sadwrn cynta’r Eisteddfod, am 4.30yp, yn dilyn ffeinal Talwrn y Beirdd.

Fe wnaeth Gerallt Lloyd Owen ennill Cadair yr Eisteddfod ddwywaith– ym Mro Dwyfor yn 1975 gyda’i awdl Yr Afon ac yn Abertawe yn 1982 gyda’i awdl Cilmeri – ac roedd yn Feuryn yr Ymryson, yn ogystal â chyflwynydd rhaglen Y Talwrn ar Radio Cymru.

Y Prifardd Meirion MacIntyre Huws sydd wedi trefnu’r sesiwn deyrnged. Dywedodd nad dadansoddiad o Gerallt y bardd fyddai yn y sesiwn, ond yn hytrach, mynd ar ôl yr elfennau o’i gymeriad oedd yn ei wneud o’n berson mor boblogaidd.

Rhaglen

Ymysg y siaradwyr gwadd fydd yn cymryd rhan yn y sesiwn mae Geraint Lloyd Owen, brawd Gerallt sydd hefyd yn Brifardd. Mi fydd o’n sôn amdanyn nhw’n blant yn Sir Feirionnydd.

Bydd Dafydd Islwyn yn mynd ar ôl cysylltiad Gerallt gyda’r Gymdeithas Gerdd Dafod, Barddas, yn ogystal â’i gysylltiad gyda’r Ymryson a’r Talwrn a bydd Ceri Wyn Jones, y Meuryn presennol, yn sôn am ddylanwad y bardd.

Bydd Gruffudd Antur yn son am brofiadau yn y talwrn o dan lygaid barcud Gerallt Lloyd Owen, tra bydd Dai Rees Davies yn sôn am ei gysylltiad gyda beirdd Ceredigion a chriw Ffostrasol.

Yn ogystal â’r siaradwyr, bydd Myrddin ap Dafydd yn sôn pwt am englynion Gerallt ac yn darllen cerdd goffa iddo a bydd Meirion MacIntyre Huws a Karen Owen hefyd yn darllen cerddi coffa.

Nid digwyddiad trwm

Dywedodd Merion MacIntyre Huws: “Nid digwyddiad trwm fydd hwn ond sesiwn a fydd yn dathlu doniau gwahanol Gerallt Lloyd Owen. Ei ffraethineb, ei ddawn dweud barod, y saethwr, y cartwnydd, y Meuryn – yr elfennau hynny o bersonoliaeth Gerallt oedd yn ei wneud o mor boblogaidd.”

I’r rhai sydd methu bod yno, bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar S4C yn yr Hydref.