Mae nifer y bobl sy’n byw gyda chlefyd y galon yng Nghymru yn gostwng, ond mae’n dal i hawlio bywydau mwy na 4,300 o bobl bob blwyddyn, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw.
Mae’r adroddiad blynyddol cyntaf ar wasanaethau cardiaidd yng Nghymru yn nodi’r cynnydd a wnaed gan y GIG wrth gyflawni cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chlefyd y galon. Mae hefyd yn nodi beth sydd angen i fwy o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG ei wneud i wella gofal i gleifion a helpu i atal rhagor o bobl rhag datblygu’r clefyd sy’n para gydol oes.
Ymrwymodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford i roi diweddariad blynyddol ar gynnydd pan gyhoeddwyd Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd y Galon ym mis Mai 2013.
Prif ganfyddiadau
  • 125,567 oedd nifer y bobl oedd yn byw gyda chlefyd coronaidd y galon yng Nghymru yn 2012-13, 8,040 yn llai nag yn 2006-07;
  • Roedd gostyngiad o 6% yn nifer y bobl oedd yn byw gyda chlefyd coronaidd y galon rhwng 2006-07 a 2012-13;
  • Roedd nifer y derbyniadau brys ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd wedi gostwng mwy na 2,500 rhwng 2010-11 a 2012-13;
  • Yn 2011, roedd clefyd coronaidd y galon wedi achosi mwy na 4,300 o farwolaethau – tua 14% o’r holl farwolaethau yng Nghymru.
Gostyngiad
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy’n byw gyda chlefyd y galon a’r bobl sy’n marw ohono,” meddai Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd, Llywodraeth Cymru. “Mae llai o dderbyniadau i ysbytai hefyd o ganlyniad i well gofal yn y gymuned.
“Serch hynny, rhaid inni barhau i fynd i’r afael â chlefyd y galon, sy’n dal i fod yn un o brif achosion marwolaeth yng Nghymru. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau, yn gwella diagnosis cynnar ac yn atal achosion y clefyd, gan gynnwys torri i lawr ar smygu ac annog pobl i fabwysiadu dulliau iachach o fyw.”
Mwy o ystadegau
  • Yn ystod 2012-13, cafodd 3,680 o gleifion yng Nghymru drawiad ar y galon;
  • Roedd gwariant mewn ysbytai yn 2011-12 ar glefyd cylchrediad y gwaed, sy’n cynnwys strôc a chlefydau cardiaidd, yn fwy na £442, mwy na 8% o holl wariant y GIG yng Nghymru;
  • Mae cyfradd y marwolaethau o glefyd y galon yn yr un rhan o bump o wardiau mwyaf difreintiedig bron draean yn uwch nag yn y ward leiaf difreintiedig, sy’n arwydd o effaith amlwg tlodi ar iechyd.