Penrhyn Gwyr
Mae ymchwiliad yn parhau i farwolaeth dynes ar draeth ym Mhenrhyn Gwyr ddoe.

Fe gwympodd y wraig 51 oed oddi ar ei cheffyl, ac fe gafodd gwylwyr y glannau a’r gwasanaethau brys eraill eu galw am 8.45yb i draeth Llangennydd.

Dyw Heddlu De Cymru ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.