Elinor Barker oedd yr unig un o athletwyr Cymru i gasglu medal yng Ngemau’r Olympaidd ddoe, ar ôl iddi ddod o fewn trwch blewyn i ennill ras bwyntiau’r marched ar y trac seiclo.

Fe orffennodd hi a’r Saesnes Laura Trott ar frig y gystadleuaeth gyda 37 pwynt yr un, ond gan mai Trott gipiodd y mwyaf o bwyntiau yn y sbrint olaf hi gipiodd y fedal aur, gyda Barker yn gorfod gwneud y tro ag arian.

Roedd yn ergyd fawr i dîm Cymru, oedd wedi gobeithio gweld trydedd fedal aur yn cael ei ychwanegu at y ddwy a enillodd Frankie Jones a Natalie Powell ar ddydd Sadwrn.

Ond serch hynny, roedd Barker yn wen i gyd ar ddiwedd y ras ac ar y podiwm wrth iddi ymuno â’i chyd-seiclwyr Prydeinig, Trott a’r Albanes Katie Archibald i gasglu’u medalau.

Mae medal arian Elinor Barker yn codi cyfanswm medalau Cymru i 18 ar ôl pedwar diwrnod o gystadlu, gyda dwy aur, wyth arian ac wyth efydd, ac yn eu gosod yn wythfed yn y tabl.

Roedd hi’n siom enfawr i’r tîm rygbi saith bob ochr ddoe, wrth iddyn nhw fethu allan ar gyfle i gystadlu am fedal ar ôl colli i Awstralia yn rownd yr wyth olaf.

Roedd y Cymry 19-0 ar y blaen ar un pwynt, cyn i Awstralia ddod nôl a chipio’r gêm gyda chais yn y munud olaf – a hynny ar ôl i Gymru wastraffu cyfle euraidd tri yn erbyn un i sgorio cais fyddai wedi’i selio hi.

Cafwyd rhagor o boen hwyr i’r tîm wedyn hefyd, wrth iddyn nhw drechu Kenya yn rownd gynderfynol y plât ond yna ildio cais hwyr arall i golli i Loegr yn y ffeinal.