Rhys Ifans
Mae’r actor Rhys Ifans wedi derbyn iawndal sylweddol ar ol i newyddiadurwyr o News Group Newspapers hacio ei ffon symudol.

Cyhoeddwyd yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw y bydd yr actor o Ruthun yn derbyn swm sylweddol nad yw’n cael ei gyhoeddi, ei gostau cyfreithiol yn ogystal ag ymddiheuriad gan News Group Newspapers (NGN), oedd yn arfer cyhoeddi’r News of the World.

O 2005 ymlaen, roedd Rhys Ifans wedi bod yn clywed swn clicio wrth ddefnyddio ei ffon symudol.

Ac yn 2013, cafodd wybod gan yr heddlu fod gwybodaeth breifat amdano wedi ymddangos mewn dogfennau gan NGN a bod tystiolaeth fod newyddiadurwr o’r News of the World wedi gwrando ar ei negeseuon ffon.

Ymddiehuro

Fe fydd y diddanwr Michael Barrymore hefyd yn derbyn iawndal. Roedd wedi cael ei dargedu gan newyddiadurwyr o 2011 ymlaen, yn benodol ar ol i gorff dyn gael ei ddarganfod

yn ei bwll nofio ym mis Mawrth.

Dywedodd y tu allan i’r llys:

“Mae’n braf cyrraedd y pwynt yma. Mae wedi cymryd 13 o flynyddoedd.

“Mae’n drueni nad ydyw wedi cael ei setlo yn gynt. Rwyf eisiau symyd mlaen ac anghofio am y peth.”

Ychwanegodd: “Dw i ddim yn credu y dylai newyddiadurwyr gael eu hatal. Os ydyn nhw’n ei gael yn iawn, mae’n iawn ond pan maen nhw’n ei gael yn angyhwir, fe ddylen nhw ymddiheuro ychydig yn gynt.”