Mae rhieni ym mhentref Groeslon wedi codi pryderon ynglŷn â diogelwch eu plant os bydd Cyngor Gwynedd yn cael gwared â gwasanaeth bws rhwng y pentref ag Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.

Gallai disgyblion orfod cerdded am dros awr i gyrraedd yr ysgol pe na bai bws ysgol ar gael iddyn nhw, yn ôl rhieni.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth golwg360 eu bod yn chwilio am gwmni bws i barhau efo’r gwasanaeth.

Ar hyn o bryd mae bws ysgol yn cludo disgyblion y pentref i’r ysgol uwchradd ym Mhenygroes, taith sydd dros ddwy filltir a hanner.

Ond mae rhai rhieni nawr yn pryderu y bydd yn rhaid i’w plant gerdded i’r ysgol ar hyd llwybr anaddas, neu wynebu taith anghyfleus ar fysus cyhoeddus, os yw’r gwasanaeth yn dod i ben.

Yn ôl Susanne Bearman, sydd wedi sefydlu grŵp Facebook yn gwrthwynebu’r penderfyniad, mae rhieni’n pryderu fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi penderfynu cael gwared â’r bws ysgol, ond na fydden nhw’n rhoi gwybod nes y bydd hi’n rhy hwyr.

Dywedodd iddi glywed sôn y byddai’r gwasanaeth bws yn dod i ben y llynedd, ac nad oedd y Cyngor wedi gallu gwarantu y byddai’r cludiant yn parhau yn y flwyddyn ysgol nesaf.

“Cyn Dolig wnes i ffonio’r cyngor fy hun er mwyn cal gwybod, ac fe wnaethon nhw ddweud bryd hynny bod yna ddim byd wedi’i benderfynu, ond [na fyddai] dim byd yn digwydd nes mis Medi,” meddai Susanne Bearman.

Dywedodd bod nifer o rieni eraill eisoes wedi cysylltu â’r Cyngor i godi pryderon, a’u bod yn poeni na fydden nhw’n cael clywed y penderfyniad yn swyddogol nes ychydig ddyddiau cyn dechrau’r tymor newydd.

“Poeni ydan ni mai rhyw wythnos cyn dechrau’r ysgol ym mis Medi y cawn ni’r llythyr drwy’r post,” meddai, gan gyfeirio at esiampl gynharach pan na roddwyd gwybod na fyddai cantîn Ysgol Groeslon ar agor nes deuddydd cyn dechrau’r tymor.

“Dw i’n mynd o ran profiad gyda’r Cyngor … mae’r ffordd maen nhw’n delio efo rhieni’n ofnadwy.”

Cyngor Gwynedd yn addo ateb mor fuan ag sydd bosib

Mewn ymateb fe gadarnhaodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd, eu bod yn ceisio dod i gytundeb â chwmni bysiau cyhoeddus fyddai’n medru darparu’r cludiant.

“Yn ddiweddar, fe wnaeth y Cyngor ail-dendro cytundebau cludiant ysgol a chludiant cyhoeddus a oedd wedi bod yn eu lle ers blynyddoedd er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â pholisïau lleol a chenedlaethol ac yn cyfleu gwerth am arian i’r pwrs cyhoeddus,” meddai Gareth Thomas.

“Fel Cyngor, mae gennym bolisi o ddarparu cludiant rhad ac am ddim o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion cynradd sy’n byw dwy filltir oddi wrth eu hysgol ac ar gyfer disgyblion uwchradd sy’n byw tair milltir oddi wrth eu hysgol, oni bai fod y llwybr ar droed yn cael ei ystyried i fod yn beryglus yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn ymwybodol o’r pryderon sydd wedi eu mynegi gan rai teuluoedd o’r Groeslon am drefniadau trafnidiaeth disgyblion uwchradd i Ysgol Dyffryn Nantlle o fis Medi ymlaen.

“O’r herwydd, mae swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i’r mater ac yn cynnal trafodaethau gyda chwmni trafnidiaeth i weld os y byddai modd iddynt ddarparu gwasanaeth cyhoeddus fasnachol fyddai ar gael i drigolion lleol gan gynnwys disgyblion o fis Medi ymlaen.

“Mae’r trafodaethau yma yn bwrw ymlaen ar hyn o bryd, a byddwn yn ysgrifennu at y teuluoedd perthnasol gyda mwy o wybodaeth am unrhyw drefniadau ar gyfer mis Medi cyn gynted ag y gallwn.”

Pryderon diogelwch

Ar hyn o bryd mae plant sydd yn byw uwchben Groeslon yn cael pas bws am ddim i deithio i’r ysgol.

Ond i’r rheiny sydd yn byw llai na thair milltir o Ysgol Dyffryn Nantlle, fe fyddan nhw un ai’n gorfod dal y bws cyhoeddus, neu gerdded.

Byddai’r bws cyhoeddus nid yn unig yn costio £1.80 y dydd i bob plentyn, ond hefyd yn golygu gorfod aros dros hanner awr ar ôl cyrraedd a chyn gadael yr ysgol oherwydd amseroedd lletchwith.

Petai’r disgyblion yn cerdded fe fydden nhw’n wynebu taith o bron i awr er mwyn cyrraedd yr ysgol, un ai drwy gerdded ar ochr ffordd heb balmant neu ar hyd llwybr feicio Lôn Eifion.

Byddai rhai’n gorfod cerdded hyd yn oed yn hirach na hynny, ac fe fyddai hynny’n creu trafferthion ychwanegol yn ôl Susanne Bearman.

“Yn ôl y ffordd mae’r Cyngor yn tybio ydi’r ffordd saffaf [Lôn Eifion] maen nhw’n gorfod croesi pum lôn,” esboniodd Susanne Bearman, sydd â dau o blant yn Ysgol Groeslon ac un yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

“Beth sy’n mynd i ddigwydd efo triwantiaeth? Dydi’r Cyngor methu rheoli pwy sy’n mynd i fod ar y lôn feics, does ‘na ddim golau stryd yno, felly mae angen meddwl am y gaeaf pan mae’n dywyll.

“Hefyd ti ddim yn gwybod pwy sy’n mynd i fod yn cuddio yna. Mae yna bobl ddrwg o gwmpas, ac os eu bod nhw’n clywed fod yna blant yn mynd i fod yn cerdded yna ar ryw amser penodol mae yn easy target dydi.”