Efa Gruffudd Jones yn yr Eisteddfod
Fe fydd Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones yn derbyn ei MBE yng Nghastell Windsor heddiw.

Cafodd ei hanrhydeddu ddechrau’r flwyddyn am ei gwasanaeth i blant a phobol ifanc Cymru ac i ddiwylliant Cymru.

Roedd rhai’n feirniadol o’i phenderfyniad i dderbyn yr anrhydedd, ac yn gofidio y byddai’n achosi rhwyg o fewn y mudiad.

Dyw hynny ddim wedi digwydd a wnaeth y mater ddim codi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

Dadlau

Yn dilyn y dadlau, gwnaeth Efa Gruffudd Jones amddiffyn ei phenderfyniad i dderbyn yr anrhydedd, gan ddweud ei bod hi’n hapus bod ei gwaith “wedi cael ei gydnabod yn allanol”.

Ond roedd eraill, gan gynnwys cyfarwyddwr yr Urdd adeg y ffraeo tros ran y mudiad yn Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969, wedi mynegi pryderon.

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd Efa Gruffudd Jones mai ei phenderfyniad personol hi ei hun oedd derbyn yr anrhydedd a’i bod hi’n “hapus iawn gyda’r penderfyniad”.

Ymhlith y rhai eraill o Gymru sy’n derbyn anrhydeddau mae’r actores Ruth Jones, awdur a seren y cyfresi teledu Gavin and Stacey a Stella a chyn-bennaeth BBC Cymru, Geraint Talfan Davies.