Mae’r teyrngedau wedi dechrau i’r Prifardd Gerallt Lloyd Owen o fewn oriau i’r cyhoeddiad am ei farwolaeth yn 69 oed.

Ym marn y Prifardd Tudur Dylan Jones, roedd yn un o’r beirdd prin yr oedd ei gerddi’n adnabyddus i lawer o bobol.

“Yn ystod yr hanner canrif diwethaf, mae cerddi Gerallt Lloyd Owen wedi bod yn diddanu, ansesmwytho, cyffroi a herio cenedlaethau o Gymry,” meddai.

“Mae hefyd wedi ysbrydoli cenedlaethau o feirdd trwy gyfrwng y Talwrn a’r Ymryson a bydd bwlch mawr ar ei ôl.

“Prin iawn yw’r beirdd y mae eu gwaith ar gof y llawer, ond mae Gerallt Lloyd Owen yn un y mae gymaint yn gallu dyfynnu llinellau, cwpledi a cherddi cyfan o’i waith. Mae’n cael ei gyfrif yn un o’n beirdd mwyaf ni, yn gwbl haeddiannol.”

Ffraethieneb a chynhesrwydd

Yn ôl y Prifardd Myrddin ap Dafydd, roedd y tro diwetha’ iddo weld y bardd yn crynhoi dwy elfen fawr yn ei gymeriad – a hynny adeg gorfod atal y Gadair yn yr Eisteddfod y llynedd.

“Doedd o heb fod yn iach ers cryn amser, ac roedd o’n un oedd yn poeni am lawer o bethau, ond ro’n i’n gweld ei fod o’n teimlo i’r byw nad oedd gynnon ni ddim dewis ond atal y Gadair,” meddai.

“Ond, mi roedd o’n gallu troi sefyllfa ac roedd fflach o ffraethineb yn agos iawn. Roedd o wedi dweud o’r dechrau na fyddai’n mynd i’r Eisteddfod yn Ninbych ond wedi ni benderfynu na fyddai neb yn deilwng, mi ddywedodd o  mai ni’r beirniaid eraill fyddai’n gorfod ‘wynebu’r tacla’.

“Pan ddaeth hi’n ddydd Gwener yr Eisteddfod, dyma neges yn ein cyrraedd ni nad oedd o wedi cysgu am ddyddiau yn poeni amdanon ni’n gorfod wynebu’r gynulleidfa a neb yn deilwng.

“A dyna ddau atgof sydd wedi fy nharo i heddiw – ei ffraethineb, ond hefyd cynhesrwydd ei galon o at gyfeillion a phobol o’i gwmpas.”

‘Cyfraniad aruthrol’

Fe ddaeth teyrnged hefyd gan Betsan Powys ar ran Radio Cymru, lle bu’n llais trawiadol am flynyddoedd yn Feuryn Talwrn y Beirdd.

“Trist iawn oedd clywed am golli un o leisiau unigryw a dawnus Cymru y Prifardd Gerallt Lloyd Owen.  Fe fu’n llais Y Talwrn ar Radio Cymru am 32 o flynyddoedd,” meddai. “Fel y dywedodd e’i hun wrth roi’r gorau i bwyso a mesur gwaith y beirdd, fe fu’n Feuryn am hanner ei oes.

“Roedd ei gyfraniad i’r orsaf yn aruthrol, a’r beirdd a’r gwrandawyr fel ei gilydd yn elwa o’i sylwadau treiddgar, crafog a’i hiwmor parod. Fe wnaeth yn gwbl siŵr bod yna le canolog i farddoniaeth ar Radio Cymru ac mae’r cyfraniad enfawr hwnnw i’w deimlo fyth.”

Gwaddol

Wrth siarad ar raglen Dylan Jones y bore ma, dywedodd yr Athro Peredur Lynch o Brifysgol Bangor fod Gerallt Lloyd Owen wedi gadael gwaddol o eiriau ar ei ôl, gan greu “trywydd newydd” i farddoniaeth Gymraeg:

“Da ni wedi colli bardd mawr, ac wrth gwrs, beth mae bob bardd yn ei adael ar ei ôl ydy gwaddol. Ac fe fedrwn ni gysuro ein hunain yn hynny – mae Gerallt wedi gadael gwaddol mewn geiriau.

“Mi fydd Gerallt yn fyw trwy ei eiriau ond yn sicr mi rydan ni wedi colli bardd nodedig a chymeriad arbennig.

“Fedra’ i ddim meddwl am un bardd oedd a gymaint o afael ar yr iaith Gymraeg, a’r ddawn yna sy’n aros yn fy ngolwg i.

“Fydd na neb arall yr un fath a fo, ond mae o wedi creu trywydd newydd i farddoniaeth Gymraeg.”

Ychwanegodd Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog: “Mi fydd e’n byw trwy ei eiriau ond y peth sydd wedi tewi yw tân ei awen e.

“Rwy’n meddwl fod Cymru’n lle mwy gwag heddiw, ac mae cyfrifoldeb ar ein cenhedlaeth ni i ysgwyddo’r baich hwnnw.”

Anwyldeb

Roedd y bardd Ceri Wyn Jones, wnaeth olynu Gerallt Lloyd Owen fel Meuryn ar raglen Talwrn y Beirdd, yn cofio am ei gymeriad annwyl:

“Ry’ ni ’di colli rhywun ‘y ni ’di hen ystyried yn un o’n cewri ni, un o’n bobol amlyca’ ni ond hefyd un o’n pobol anwyla’ ni.

“Mae e’n perthyn i’r criw dethol hwnnw o bobol ro’n ni’n eu nabod nhw wrth eu henw cynta’ – chi’n meddwl am bobl fel Waldo, Ryan, Dic a ni’n gosod Gerallt yn yr un cwmni – a gallwn ni ddim rhoi teyrnged fwy iddo na hynny dwi ddim yn credu.”

Rhaglenni arbennig ar S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd nifer o raglenni arbennig yn cael eu hamserlennu dros y dyddiau nesaf er cof am Gerallt Lloyd Owen.

Heddiw ar ‘Prynhawn Da’ bydd y Prifardd Robat Powell yn cofio am Gerallt Lloyd Owen.

Mewn rhaglen arbennig o ‘Heno’ (heddiw, 16 Gorffennaf) bydd Ceri Wyn Jones, Eurig Salisbury, Dafydd Iwan, Mererid Hopwood a Tudur Dylan yn rhoi teyrngedau.

Nos Sadwrn, 19 Gorffennaf am 9.30yh bydd y ffilm ddogfen ‘Gerallt’ yn cael ei dangos eto.

‘Colli un o’n mawrion cyfoes’

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Mae’r newyddion am farwolaeth Gerallt yn ofnadwy o drist – mae Cymru a’r Gymraeg wedi colli un o’n mawrion cyfoes.  Roedd y portread gwych diweddar ohono ar S4C, Gerallt, yn gyfle prin i ddod i’w adnabod yn well wrth iddo fwrw ei fol am yr hyn a’i ysgogodd drwy gydol ei fywyd – y llon ar lleddf.

“Wrth ei wylio bryd hynny, roeddech chi’n ymwybodol y byddai gwaith anhygoel y gŵr arbennig yma’n cael ei gofio a’i werthfawrogi am genedlaethau i ddod.

“Hoffwn gynnig ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a chyfeillion Gerallt yn eu colled.”

Teyrngedau

Mae llu o deyrngedau eraill wedi eu rhoi i Gerallt Lloyd Owen ar wefan trydar. Dyma ddetholiad ohonyn nhw:

Rhun ap Iorwerth ‏@RhunapIorwerth

Wedi fy nhristau yn fawr o glywed am golli un o feirdd gorau Cymru, Gerallt Lloyd Owen. Yn Gymraeg, neu wedi cael ei gyfieithu, roeddwn yn rhyfeddu at ei welediad i enaid ein cenedl.

Dyfrig Jones ‏@dyfrig

Trist o glywed am farwolaeth Gerallt Lloyd Owen. Bardd a afaelodd yn ysbryd y Cymry gyda’i ddwy law, a’i ysgwyd.

Idris Charles ‏@idrischarles

Mor fawr fydd colled Cymru o golli y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, diolch iddo am ei gyfraniad enfawr. Fy nghydymdeimlad dwysaf â’r teulu.