Bu farw babi newydd ar ôl iddi gael ei heintio gyda E.coli gan  fabi arall oedd yn ddifrifol wael, clywodd cwest heddiw.

Cafodd Hope Erin Evans ei geni 14 wythnos yn gynnar yn Ysbyty Singleton  yn Abertawe yn 2011.

Tua 72 awr ar ôl iddi gael ei geni roedd ei chyflwr wedi gwaethygu’n sylweddol. Bu farw yn bum niwrnod oed.

Roedd babi arall, sy’n cael ei adnabod fel Babi A1, hefyd wedi marw.

Darganfuwyd yn ddiweddarach bod y babi, a oedd mewn crud dim ond dau fetr i ffwrdd, hefyd yn dioddef o’r un math o E.coli.

Clywodd y cwest bod mam Babi A1 wedi cael ei heintio tra’n cael triniaeth IVF yn India.

Er bod hynny wedi ei nodi ar ei chofnodion meddygol yn India nid oedd hi na’i meddygon yng Nghymru yn ymwybodol o hynny nes bod yr haint wedi lledu.

Clywodd y cwest bod crud y ddau fabi ddau fetr i fwrdd o’i gilydd yn yr uned gofal dwys ar gyfer babis newydd, er bod canllawiau’n dweud y dylen nhw fod o leiaf tri metr i ffwrdd o’i gilydd.

Mae’r cwest yn parhau.