Mae maes awyr Llanbedr ger Harlech yn un o’r wyth safle sy’n cael eu hystyried fel lleoliadau posib ar gyfer maes rocedi cyntaf Prydain.

Fel rhan o gynllun gan Lywodraeth San Steffan, mae bwriad i’r awyrennau fod yn cludo teithwyr i’r gofod ymhen pedair blynedd. Fe all y diwydiant greu 100,000 o swyddi a fyddai’n  werth £40 biliwn i’r economi, yn ôl gweinidogion.

Bydd lloerenni masnachol hefyd yn cael eu lansio o’r maes awyr dewisedig.

Mae disgwyl i’r teithiau cyntaf i’r gofod gan gwmni Virgin Galactic lansio o New Mexico yn yr Unol Daleithiau  ar ddechrau’r flwyddyn nesaf. Bydd teithwyr yn talu £120,000 am daith 150 munud fydd yn dringo 62 milltir i’r gofod.

Croesawu

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, rhoddodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart groeso cynnes i’r newyddion, gan ddweud y byddai’n dod a llawer o fanteision i Gymru.

“Pe byddai Llanbedr yn cael ei ddewis, byddai cyfle yma i weddnewid pethau. Byddai’n rhoi hwb i economi rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru ac yn rhoi Cymru ar y map fel cyfrannydd pwysig i sector gofod byd eang y Deyrnas Unedig sy’n sector sy’n prysur dyfu.

“Mae gan Gymru gryfderau eisoes yn y Diwydiant Gofod a gallai’r Ganolfan Awyrennau helpu’r diwydiant hwn i sefydlu ei hunan ac i dyfu fel rhan o weledigaeth y DU ar ei gyfer.”

Lleoliadau

Mae’n rhaid i bob lleoliad sydd o dan ystyriaeth fod yn ddigon pell oddi wrth ardaloedd poblog a gyda llain lanio y gellir ei ymestyn i fwy na 3,000m (9,842 troedfedd).

Ymysg y lleoliadau eraill sy’n cael eu hystyried mae:

  • Maes Awyr Campbeltown (Yr Alban)
  • Glasgow, Prestwick (Yr Alban)
  • Stornorway (Yr Alban)
  • Meysydd Awyr y Llu Awyr yn Luchars a Lossiemouth (Yr Alban)
  • Gwersyll Kinloss (Yr Alban)
  • Maes Awyr Newquay (Cernyw)