Y bardd Nigel Jenkins
Fe fydd gŵyl ddwyieithog yn dathlu bywyd bardd mwya’ adnabyddus Cymru ac un o’r beirdd a wnaeth fwya’ i bontio rhwng y ddwy iaith yng Nghymru.

Uchafbwynt y gweithgareddau’r  penwythnos nesa’ yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, yw noson i Gofio Nigel – dathliad o fywyd a gwaith y bardd o Benrhyn Gwyr, Nigel Jenkins.

Fe fydd rhes o feirdd, cerddorion ac awduron yn cymryd rhan ac fe fydd cyfrol Encounters with Nigel Jenkins yn cael ei lansio cyn y digwyddiad nos Sadwrn yng Nghanolfan Dylan Thomas yn y ddinas.

Dylan hefyd

Mae llawer o’r gweithgareddau ddydd Sadwrn ymwneud â Dylan Thomas, gan gynnwys trafodaeth amdano ef ac R S Thomas a T James Jones yn darllen o’i gyfieithiad newydd o’r ddrama Dan y Wenallt.

Y digwyddiad cynta’ oll yw taith o amgylch rhai o hoff dafarnau Dylan Thomas yn y ddinas, yng nghwmni’r darlledwr Wyn Thomas, dylunydd cyfrol am dai potes y bardd.

Er nad oedd eisiau sylw, roedd Nigel Jenkins wedi dweud cyn ei farw y byddai’n hoffi dathliad bach yng Nghanolfan Dylan Thomas, yn ôl trefnydd y digwyddiadau, y bardd Menna Elfyn.

“Roedd wedi bod yn fwy selog na neb wrth gefnogi’r Ganolfan,” meddai. “Mae rhai yn credu na fydden ni wedi cael Blwyddyn Lenyddiaeth oni bai am Nigel.

‘Bardd diymhongar’

“Mae’n gweddu iddo gael noson o’r fath ymysg yr holl sylw sy’n cael i roi i Dylan Thomas,” meddai Menna Elfyn.

“Bardd diymhongar oedd Nigel ac roedd ei gariad at y Gymraeg yn ddihafal a’i wreiddiau yn ddwfn ym Mro Gŵyr a Chymru.

Roedd e’n canu am Gymru yn Saesneg cyn i hynny fod yn dderbyniol ac yn barod i ddefnyddio dychan – yn ddifyr, yn ddeifiol -yn y llais mwyaf argyhoeddedig- a ddeilliai o ddyfnder ei enaid.

“Fel y dywedodd un myfyriwr o America wrtha’ i unwaith: ‘I thought an old Celtic God had been brought back to earth’. Chwerthin wnaeth Nigel wrth gwrs. Ond roedd rhywbeth o’r hen dduw Celtaidd ynddo hyd y diwedd.”

Digwyddiadau’r ŵyl

Popeth yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe

Nos Wener 18 Gorffennaf, 6.30-8.30 – taith o amgylch tafarnau Dylan Thomas. Pris £3, Gostyngiadau £1

Bore Sadwrn 19 Gorffennaf, 11-12.30 – M. Wynn Thomas a Daniel G. Williams yn trafod Dylan ac  RS. Pris £3, Gostyngiadau £1

Prynhawn Sadwrn 19 Gorffennaf, 2.00-3.15 – T. James Jones a lansiad a darlleniadau o’r fersiwn newydd o Dan y Wenallt. 3.45-5.00 – Lansiad a darlleniadau A Haven from Hitler/Yr Erlid, Heini Gruffudd. Mynediad am ddim.

Nos Sadwrn 19 Gorffennaf, 7.00 – lansio Encounters with Nigel Jenkins, gyda Jon Gower ac Ali Awar. 7.30 – Cofio Nigel. Mynediad am ddim ond rhaid sicrhau tocyn ymlaen llaw.