Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi dweud nad ydyn nhw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gamymddwyn gan swyddogion Heddlu De Cymru mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yn ei gell yng Ngharchar Caerdydd.

Heddiw mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad i’r asesiad risg a wnaed gan Heddlu De Cymru cyn marwolaeth Christopher Shapley yng ngharchar Caerdydd ym mis Medi’r llynedd.

Cefndir

Cafodd Shapley, 43, ei arestio yn ei gartref yn dilyn ffrae gyda’i fam ar 17 Medi a’i gadw yn y ddalfa ym Merthyr Tudful.

Ar 19 Medi, ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Pontypridd cyn cael ei drosglwyddo i Garchar Caerdydd.

Daethpwyd o hyd iddo’n farw yn ei gell ar 20 Medi.

Canfyddiadau

Daeth y Comisiwn i’r casgliad bod swyddogion Heddlu De Cymru wedi cydymffurfio â gweithdrefnau ar gyfer cwblhau asesiadau risg ar berson yn y ddalfa.

Roedden nhw hefyd wedi siarad â theulu Christopher Shapley ynglŷn faint o risg oedd yna y byddai’n niweidio ei hun.

Ond fe wnaeth y Comisiwn hefyd ddarganfod problemau gyda’r ffurflen Cofnod Hebrwng Person, sy’n cael ei ddefnyddio gan heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr i nodi pryderon y byddai carcharor yn niweidio ei hun.

Roedd swyddogion Heddlu De Cymru wedi nodi ar y ffurflen bod pryderon y byddai Shapley yn hunan niweidio, ond nid oedd digon o le ar y ffurflen i ddarparu rhagor o wybodaeth.

Penderfynodd yr heddlu ddefnyddio tudalen arall a’i ychwanegu at y  ffurflen. Ar ryw bwynt, collwyd y dudalen ychwanegol oedd yn golygu na chafodd y wybodaeth ychwanegol ei basio ymlaen i’r carchar.

Dywedodd comisiynydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yng Nghymru, Jan Williams, bod marwolaeth Christopher Shapley wedi tynnu sylw at yr angen am asesiad risg trylwyr yn ogystal â ffordd gadarn o gyfathrebu’r wybodaeth i bob awdurdod sydd â chyfrifoldeb am gadw carcharorion.

Meddai: “Roedd colli’r wybodaeth  ychwanegol yn anffodus i Christopher, ac ni fyddwn ni’n gwybod beth allai fod wedi digwydd pe na bai’r wybodaeth wedi mynd ar goll.

“Roedd hyn yn gyfres drist iawn o ddigwyddiadau a ddaeth at gasgliad trasig.

“Rwyf wedi cwrdd gyda’i rieni i rannu canfyddiadau’r ymchwiliad ac maent yn parhau i gael fy nghydymdeimlad diffuant wrth iddynt geisio dod i delerau â’u colled.”