RSS

Golwg360

MwyCau 

Rhagor o ddeunydd Doctor Who yn ymddangos ar y we

Gorffennaf 14, 2014 12:38 Diweddarwyd am 13:47


Peter Capaldi sy'n chwarae rhan Doctor Who
Mae ffilm sy’n dangos rhan o gyfres newydd Doctor Who wedi ymddangos ar y we bron i chwe wythnos cyn darlledu’r gyfres newydd.

Nid yw’r gyfres, sy’n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd, i fod i gael ei darlledu tan fis Awst ond mae rhan o bennod mewn du a gwyn, heb effeithiau arbennig, wedi ymddangos ar y we.

Mae penaethiaid y BBC eisoes yn ymchwilio i sut wnaeth nifer o sgriptiau’r gyfres newydd, sydd a Peter Capaldi yn chwarae rhan Doctor Who, hefyd ymddangos ar y we.

Mae’r BBC wedi atgoffa ffans y rhaglen ei bod hi’n anghyfreithlon bod ym meddiant y ffilm yn ogystal â’i rhannu hi.

Meddai llefarydd ar ran y BBC: “Mae hyn yn rhan o ymchwiliad diogelwch parhaus i ddeunyddiau Doctor Who sydd wedi ymddangos ar  y we.

“Hoffem ddiolch i ffans anhygoel Doctor Who sy’n parhau i gadw gwefannau ffans a gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn rhydd o gynnwys sy’n difetha’r gyfres i eraill.

“Ond hoffem atgoffa’r rhai sy’n lawrlwytho a rhannu’r deunydd hwn ei bod hi’n anghyfreithlon gwneud hynny.”

Mae’r gyfres newydd yn dechrau ar 23 Awst.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.