rylls (Llun: Cyngor Gwynedd)
Mae’r anturiaethwr Edward Michael Grylls, sy’n galw ei hun yn Bear Grylls,  yn “byw ar blaned wahanol” os yw’n meddwl y byddai’n deg i Gyngor Gwynedd gymeradwyo ei gais i adeiladu jeti ar Ynys Tudwal Fawr ym Mhen Llŷn.

Dyna farn un aelod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd sydd wedi derbyn cais uniaith Saesneg gan Bear Grylls i greu jeti, sef lle i gadw cychod, ar yr ynys mae o wedi ei brynu ger Abersoch.

Mewn llythyr i aelodau’r pwyllgor, dywedodd Bear Grylls fod cael jeti ar yr ynys yn “bwysig iawn iddo ef a’i deulu”.

Ond mae’r cynghorydd Craig ab Iago o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle, yn ei chael hi’n anodd cydymdeimlo a’i sefyllfa:

Mae pobol yr ardal yn cael trafferth i brynu tai oherwydd fod y prisiau mor uchel ac mae Bear Grylls eisiau jeti ar ei ynys, sy’n retreat iddo dros yr haf,” meddai.

“Mae ei realiti fo mor bell oddi wrth ein realiti ni, mae’n byw ar blaned wahanol i ni.

“Dwi mor flin ac wedi torri fy nghalon ar ôl derbyn ei gais am ganiatâd cynllunio ar un o’n hynysoedd ni mae o wedi ei brynu.”

Diffyg parch

Er bod Bear Grylls yn dweud yn ei lythyr ei fod “â llawer o feddwl o Gymru”, mae Craig ab Iago yn credu fod gyrru cais uniaith Saesneg i Gyngor Gwynedd yn dangos diffyg parch tuag at drigolion yr ardal.

“Mae’r ffaith ei fod yn meddwl ei fod o’n iawn i ofyn yn y lle cyntaf, achos mai fo ydy Bear Grylls, a gwneud hynny yn Saesneg hefyd yn anhygoel.

Corddi’r dyfroedd

Mae Bear Grylls wedi corddi’r dyfroedd unwaith yn barod trwy osod llithren fawr oedd yn mynd o Ynys Tudwal Fawr i’r môr, heb roi gwybod i Gyngor Gwynedd ei fod am wneud hynny.

Bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd ar 28 Gorffennaf.