Cig oen
Cig oen oedd ar y fwydlen i’r 2,000 o swyddogion ac aelodau NATO mewn cyfarfod ym Mrwsel heddiw.

Bwriad y digwyddiad oedd hyrwyddo Cymru, cyn i uwch-gynhadledd NATO gael ei chynnal yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar ddechrau mis Medi.

Hwn yw’r eildro i Gig Oen Cymru gael sylw mewn digwyddiad i hyrwyddo’r uwch-gynhadledd yng Nghymru.

Y mis diwethaf, cafodd Cig Oen Cymru ei weini i weinidogion tramor yn ystod cinio gwaith lle’r oedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones,  yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a’r Gymanwlad, William Hague; Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry; ac Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, Anders Fogh Rasmussen yn bresennol.

Mwy o alw

“Mae’n gyfle delfrydol i dynnu sylw at ragoriaeth Cig Oen Cymru i gynulleidfa ddylanwadol o’n cyd-genhedloedd yn NATO,” meddai Laura Pickup, Rheolwraig Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru.

“Credaf y bydd yn arwain at fwy o alw am ein cynhyrchion gan wledydd tramor.”