Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud eu bod nhw’n falch bod y gwasanaeth tân wedi ymateb i’w pryderon am y Gymraeg yn dilyn penderfyniad i adleoli canolfan reoli.

Roedd cynghorwyr wedi mynegi pryderon bod symud canolfan reoli’r gwasanaeth tân yn y canolbarth a’r de-orllewin, o Gaerfyrddin i Benybont-ar-Ogwr, yn mynd i fygwth gwasanaeth Cymraeg a gwybodaeth leol.

Ond dywed Arweinydd cyngor sir Caerfyrddin, Kevin Madge fod cyfarfod gyda phenaethiaid y gwasanaeth wedi tawelu ei feddwl.

“Mae’n anodd dod o hyd i waith yn rhan yma’r byd a mae hynny’n bryder inni gyd ond rydym ni’n gallu gweld beth rydych chi’n ceisio ei wneud,” meddai mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir.

“Mewn cyfnod anodd rydym ni oll yn ceisio dod o hyd i atebion. Rydym ni’n bles fod ein pryderon dros swyddi a’r iaith Gymraeg wedi cael eu hateb.”

Y Gymraeg yn ‘hanfodol’

Wrth annerch Bwrdd Rheoli Cyngor Sir Caerfyrddin dywedodd Derek Masson, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol y canolbarth a’r de-orllewin, fod y Gymraeg yn “hanfodol.”

“Mae’n bwysig fod pwy bynnag sydd eisiau siarad trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud hynny, yn enwedig â bod nhw’n siarad gyda ni dan amodau o straen pan fyddan nhw eisiau siarad yn eu hiaith gyntaf.”

Cau canolfan yn ‘beryglus’ medd undeb

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi dweud y byddan nhw’n arbed tua £400,000 o uno eu canolfan reoli gyda’r gwasanaethau brys eraill mewn canolfan newydd yn ne Cymru. Ond mae undeb y diffoddwyr tân wedi rhybuddio y gallai’r symud gael “goblygiadau difrifol i iechyd y cyhoedd yn y rhanbarth.”

“Bydd gwybodaeth leol am ardaloedd gwledig yn cael ei cholli, gan olygu y gallai diffoddwyr tân gymryd mwy o amser i gyrraedd digwyddiadau ac i daclo tân ac argyfyngau eraill,” meddai Barrie Davies o Undeb y Frigâd Dân yn y canolbarth a’r gorllewin.