Fe fydd system gyfieithu ar y pryd sy’n defnyddio hen ffonau symudol yn un o naw prosiect sy’n cael arian o gronfa ddigidol Gymraeg y Llywodraeth.

Mae yna hefyd bedwar ap a chynlluniau i greu fersiynau Cymraeg o fathau poblogaidd o feddalwedd.

Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fe fydd yr arian yn help i gyflawni un o brif amcanion dogfen bolisi’r Llywodraeth, Bwrw Ymlaen, sy’n pwysleisio’r angen i gael rhagor o ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.

Y manylion

Fe fydd y naw prosiect yn rhannu £186,774 trwy’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg.

  • Yr asiantaeth ddatblygu, Menter Môn, sy’n cael arian i greu system ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd gan ddefnyddio ffonau symudol sydd wedi eu hailgylchu.
  • Fe fydd Coleg Newyddiadurol Caerdydd yn derbyn arian i greu dull i bobol greu, cynnal a hybu newyddion cymunedol digidol yn y Gymraeg.
  • Y pedwar ap yw un gan y Ffermwyr Ifanc i rannu gwybodaeth i’w haelodau, un i ddysgwyr ddod o hyd i weithgareddau addas, un i blant greu cymeriadau avatar ac un i hybu cerddoriaeth wahanol.

‘Technoleg yn bwysig’

“Mae technoleg yn rhan bwysig o’n bywydau bob dydd, felly mae’n hanfodol sicrhau bod technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg ar gael yn ddidrafferth,” meddai Carwyn Jones wrth gyhoeddi’r grantiau.