Christopher Salmon
Fe fydd pobol sy’n cael eu treisio neu sy’n dioddef ymosodiad rhyw yn derbyn cymorth gan Heddlu Dyfed-Powys mewn dwy ganolfan newydd yng nghefn gwlad Cymru.

Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Christopher Salmon wedi clustnodi £121,000 ar gyfer y ddau safle yn Aberystwyth a’r Drenewydd.

Mae disgwyl iddyn nhw agor cyn haf nesaf.

Mae gan Heddlu Dyfed-Powys un ganolfan ar hyn o bryd yng Nghaerfyrddin ac mae’n gwasanaethu’r rhanbarth cyfan.

Mae’n rhaid i rai dioddefwyr deithio hyd at bum awr i gyrraedd y ganolfan bresennol ac yn ôl.

Bydd dau safle presennol yn cael eu hadnewyddu er mwyn sefydlu Canolfannau Argyfwng Trais o Bell yng Nghefn Gwlad.

Cyngor a chefnogaeth

Yn y canolfannau newydd, fe fydd cyfleuster archwilio meddygol ac fe fydd gweithiwr argyfwng ar gael i gynghori dioddefwyr.

Dywedodd Christopher Salmon: “Mae pobol sy’n cael eu treisio ac sy’n dioddef ymosodiadau rhyw mewn perygl mawr.

“Rwy’n ymroi i ddarparu cyfleusterau gwell a gofal i’w cefnogi nhw.

“Bydd y cyfleusterau hyn yn sicrhau na fydd dioddefwyr o ganlyniad i’r troseddau erchyll hyn yn gorfod teithio pellterau gormodol i dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.”

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Pam Kelly: “Mae dioddefwyr trais ac ymosodiadau rhyw yn haeddu’r gwasanaeth a’r gefnogaeth gorau posib.

“Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddioddefwyr sy’n byw yn ein cymunedau yng nghefn gwlad.

“Bydd cefnogaeth arbenigol ar gyfer dioddefwyr trais ac ymosodiadau rhyw yn ein helpu ni hefyd i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell.”