Carwyn Jones
Pymtheg mlynedd ar ôl i’r Cynulliad Cenedlaethol ddod i rym, mae Carwyn Jones wedi ymateb i ail adroddiad Comisiwn Silk gan gyhoeddi ei weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru o fewn y DU.

Mae hefyd wedi cyflwyno ei achos o blaid rhagor o bwerau i Lywodraeth Cymru ac wedi amlinellu’r amserlen y byddai’n dymuno’i gweld ar gyfer cael rhagor o bwerau.

Wrth ymateb i ail adroddiad Comisiwn Silk, dywedodd ei fod yn cytuno a’r rhan fwyaf o’r cynigion, ond fod achos cryf o blaid mynd ymhellach mewn meysydd allweddol megis iechyd ac ynni er mwyn ymateb yn llawn i’r heriau sy’n wynebu Cymru.

Pwysleisiodd y Prif Weinidog bod cyhoeddi’r ddogfen heddiw yn rhan o weledigaeth ehangach i ddiwygio trefn lywodraethu Cymru yn genedlaethol ac yn lleol.

Bydd hynny’n cynnwys cynlluniau ar gyfer cam nesaf diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus, wrth i’r ymateb i adroddiad Comisiwn Williams gael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.

‘Symleiddio’

Dywedodd Carwyn Jones: “Dim ond ers prin dair blynedd y mae Cymru wedi meddu ar bwerau deddfwriaethol sylfaenol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol. Er hynny, rydym wedi’n cyfyngu o hyd gan set o drefniadau llywodraethu sydd wedi dyddio.

“Bydd mabwysiadu’r model cadw pwerau, fel y mae’r Comisiwn yn ei argymell, yn golygu bod Cymru yn cael ei rhoi ar yr un sylfaen â’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Bydd hyn yn symleiddio trefniadau cyfansoddiadol y DU ac yn lleihau’r ansicrwydd a’r cymhlethdod sy’n llesteirio ein gallu i gyflawni.

“Mae Silk yn ein rhoi ar y trywydd iawn ond mae angen mynd ymhellach yn fy marn i, a heddiw rwy’n cyflwyno’r achos o blaid pwerau ehangach i’n galluogi i hyrwyddo ein nodau ar gyfer iechyd, yr amgylchedd, yr economi a thrafnidiaeth a’n cymunedau, a hynny heb ansicrwydd a dryswch ynghylch ein pwerau.”

“Ar ei ffurf bresennol, mae setliad datganoli Cymru yn rhy ochelgar, yn rhy gymhleth, ac wedi dyddio. Mae’r trywydd yr ydw i wedi’i bennu heddiw yn cynnig ffordd well ymlaen, ac rydym yn barod i gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r cyfansoddiad diwygiedig y mae ar Gymru ei angen.”

‘Craffu’

Meddai’r Gymdeithas Newid Etholiadol eu bod nhw’n croesawu sylwadau Carwyn Jones, yn enwedig os yw’n golygu cynnydd yn  nifer yr Aelodau Cynulliad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen “craffu democrataidd effeithiol”.

Meddai Steve Brooks o’r Gymdeithas Newid Etholiadol: “Mae ein tystiolaeth annibynnol wedi dod i’r casgliad mai 100 o Aelodau Cynulliad, nid 60, fyddai’r nifer cywir o ystyried pwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Gyda mwy o bwerau ar y ffordd i Lywodraeth Cymru, mae’n hanfodol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ddigon cryf i graffu ar y penderfyniadau y maent yn eu cymryd ar ran pobl Cymru.”

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o brosiect Undeb sy’n Newid:  “Fel prosiect, rydym yn croesawu’r datganiad heddiw gan Lywodraeth Cymru sy’n cydnabod bod angen cynyddu cynhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn destun craffu democrataidd effeithiol.

“Mae’r dystiolaeth gymharol ddiweddar, rhyngwladol, yn awgrymu y dylid cael 100 Aelod Cynulliad. “