Cyngor Gwynedd
Mae  cynllun iaith Cyngor Gwynedd wedi cael ei feirniadu am ystyried disgyblu aelodau staff sydd ddim yn cyfarch pobl yn Gymraeg.

Roedd Louise Hughes, sy’n gynghorydd annibynnol  dros ward Llangelynnin, wedi dweud wrth y BBC na all y cyngor orfodi pobl i siarad Cymraeg mewn cymdeithas amlddiwylliannol.

Ychwanegodd y cynghorydd  bod ei Chymraeg hi’n rhesymol ond bod y rhai sydd ddim yn rhugl yn cael eu gwneud i deimlo’n eilradd.

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod Adran Hamdden y cyngor wedi cymryd camau positif i sicrhau fod eu holl staff yn gallu darparu gwasanaeth dwyieithog addas i gwsmeriaid a’u bod nhw’n “hynod falch o’r gwelliannau hyn.”

‘Disgyblu’

Daeth sylwadau Louise Hughes wedi i Adroddiad Monitro Cynllun Iaith Cyngor Gwynedd nodi y byddai’r cyngor “yn parhau i bwyso ar staff sy’n amharod i ddefnyddio’r iaith Gymraeg, a bydd ystyriaeth yn cael ei roi i fesurau disgyblu mewn rhai amgylchiadau.”

Ond  meddai’r adroddiad bod penodi pencampwyr iaith yng nghanolfannau hamdden y sir wedi gweld mwy o staff yn cyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg – yn enwedig yng nghanolfannau hamdden Bangor a Thywyn.

Ym Mangor, mae 11 o 30 o staff y ganolfan hamdden erbyn hyn yn siarad Cymraeg. Yn Nhywyn, meddai’r adroddiad, mae’r rheolwr bellach yn gallu dilyn trafodaethau drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

Ond ychwanegodd yr adroddiad bod problemau’n parhau yng nghanolfan hamdden Dolgellau gyda rhai staff heb yr hyder, neu’n amharod, i gyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg er bod y cyngor yn ceisio annog hynny.

‘Gwerthfawr’

Er hynny, mae cynllun Hyrwyddwyr iaith yn cael ei weld fel un “gwerthfawr” ac mae’r cyngor nawr yn ystyried cynllun tebyg yng nghartrefi preswyl y sir hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod y cyngor o’r farn fod yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd yn cael eu hyrwyddo orau mewn ffordd bositif “i sicrhau ein bod yn ateb gofynion a disgwyliadau’r cyhoedd ac yn cydymffurfio gydag anghenion Mesur y Gymraeg 2011.”

Meddai’r llefarydd: “Oherwydd hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod holl staff y cyngor yn cyfathrebu gyda’n cwsmeriaid yn iaith ddewisol y cwsmer, boed hynny’n Gymraeg neu’n Saesneg.

“Bob wythnos, mae Cyngor Gwynedd yn darparu gwersi nofio a chwaraeon i gannoedd o blant ysgol y sir. Mae’r ffaith fod 89% o blant rhwng 3-15 oed yng Ngwynedd yn siarad Cymraeg, gyda nifer o’r plant ieuengaf ddim eto yn siaradwyr Saesneg rhugl, mae’n hynod bwysig fod polisi iaith y Cyngor yn cael ei weithredu yn ein canolfannau hamdden.”

“Nid oes unrhyw gamau wedi eu cymryd yn erbyn unrhyw unigolion na all gydymffurfio gyda pholisi iaith y Cyngor fel y nodir yn nhelerau gyflogaeth a gytunwyd gyda phob gweithiwr. Er hynny, fel y nodir yn yr adroddiad, dylid ystyried cymryd camau o’r fath mewn rhai achosion yn y dyfodol os yn briodol, rhesymol ac yn unol â thelerau ac amodau gwasanaeth lleol.”