Castell Gwrych
Fe fydd tiroedd Castell Gwrych yn agored i’r cyhoedd fory – a hynny am y tro cynta’ ers yr 1980au.

Dros y blynyddoedd, fe ddirywiodd cyflwr yr adeilad rhestredig Gradd 2 ger Abergele, ond y bwriad ydi trawsnewid y lle’n westy moethus.

Mae perchnogion y safle, Castell Developments, wedi rhoi peth o’r tiroedd ar les i Ymddiriedolaeth Gwrych ar gyfer creu canolfan ymwelwyr yno.

Mae’r gerddi hefyd yn rhan o’r tiroedd fydd yn agored i’r cyhoedd, ac maen nhw wedi’u clustnodi i fod o ddiddordeb gwyddonol arbennig.