Mae golwg360 a phapur bro’n cydweithio gyda phobol leol i greu cyfrwng cymdeithasol Cymraeg newydd.

Y nod yw defnyddio’r cyfryngau newydd i atgyfnerthu’r math o waith y mae papurau bro wedi’i wneud yn y gorffennol a chyrraedd cynulleidfaoedd hollol newydd.

Fory yn Llanbed, mae cymdeithasau a chlybiau lleol wedi cael eu gwahodd i ddod i sesiynau gwybodaeth a thrafod am gynllun lle ar y we Llanbed, dan adain golwg360 a’r papur bro Clonc.

Y cynllun

  • Y cam cynta’ fydd annog a helpu’r cymdeithasau a’r unigolion i ddefnyddio gwefannau fel Twitter a Facebook yn Gymraeg.
  • Yr ail gam, os bydd pobol o blaid, fydd creu cyfrifon lle mae modd i’r holl negeseuon o’r ardal fynd i’r un lle.
  • Y trydydd cam posibl fydd creu gwefan yn llwyfan i’r negeseuon ac i bob math o straeon newyddion, gwybodaeth a hyd yn oed hysbysebion.

Mae Clonc eisoes yn weithgar ar y we ac fe fydd y papur yn defnyddio’r gwasanaeth newydd i ychwanegu at ei rifynnau print.

Fe fydd Golwg360 yn defnyddio’r gwasanaeth i gyhoeddi straeon sydd o ddiddordeb lleol.

Yn ei neges i’r sesiynau, mae Cadeirydd Clonc, Dylan Lewis, yn annog cymdeithasau ac unigolion i ddefnyddio’r gwasanaeth.

“Rydym am annog mwy o unigolion lleol a chymdeithasau fel MYW, CFfI, SYM, Capeli, timoedd chwaraeon ayb i ddefnyddio Twitter yn Gymraeg,” meddai.

“Mae canran uchel o bobol leol yn gallu tynnu lluniau ar eu ffonau symudol, nawr fe fydd cyfle i rannu hyn yn Gymraeg ar Twitter neu Facebook fel y gall Clonc a golwg360 rannu’r negeseuon perthnasol tu fas i’r grŵp ffrindiau gyda chysylltiadau lleol ehangach.”

‘Hanfodol’

Ac roedd Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg360, sydd â’u prif swyddfa yn Llanbed, yn dweud bod datblygiadau o’r fath yn hanfodol i gymunedau Cymraeg.

“Mae’n bosib creu Lle ar y We i ni i gyd ei ddefnyddio, i rannu gwybodaeth a chlonc a chadw cysylltiad â’n gilydd, a hynny yn Gymraeg,” meddai.

“Mae fel cael hysbysfwrdd anferth sydd ar gael i bawb am ddim – i wneud rhywbeth mor syml â dweud pen-blwydd hapus neu i dynnu sylw at newyddion pwysig.”

Mae golwg360 wedi bod yn dadlau o blaid creu rhwydwaith o wasanaethau tebyg trwy Gymru ac wedi bod yn ceisio’n aflwyddiannus i gael cefnogaeth ariannol i hynny.

Amserlen

Mae croeso i unrhyw un ymweld â’r sesiynau canlynol yn yr Hedyn Mwstard fory:

15:00 – 17:00: ‘Sesiynau taro mewn – cyfle i drafod a chael cyngor am ddefnyddio’r cyfryngau digidol, a rhoi tro ar eu defnyddio.

18:00: Cyflwyniadau i’r cyfryngau cymdeithasol, a thrafodaeth am sefydlu gwasanaeth yn Llanbed