Cwrw Llŷn
Fe fydd y gwydrau cyntaf gyda’r mesur cyhoeddus PEINT yn hytrach na PINT yn cael eu defnyddio mewn tafarndai, ar ôl i fragdy Cwrw Llŷn ennill yr hawl i gael y gair Cymraeg – a’r Gymraeg yn unig – ar wydrau cwrw.

Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd o frwydr i’r fenter gymunedol o Nefyn, gyda Llywodraeth San Steffan yn mynnu y byddai’r marc PEINT yn tanseilio’r gair Saesneg ac yn camarwain y cyhoedd.

Ond yn ôl un o sefydlwyr y cwmni, Myrddin ap Dafydd, mae’r Gymraeg yn arf farchnata bwysig iawn ac fe fydd y fuddugoliaeth yn “agor drysau i’r iaith gael ei defnyddio ar ei phen ei hun mewn sawl maes arall”.

Mae o hefyd yn galw ar bob bragdy yng Nghymru i arddel yr hawl i ddefnyddio’r marc  PEINT ar eu gwydrau er mwyn annog ymwelwyr i ymddiddori yn y Gymraeg.

Y frwydr

Cafodd y cais cyntaf i San Steffan ei wrthod ar ôl i’r Swyddfa Fesur Genedlaethol a Safonau Masnach Gwledydd Prydain honni fod rheolau Ewrop yn gwahardd defnyddio’r Gymraeg fel mesur cyhoeddus.

“Roeddem ni wedi clywed straeon am Lundain wastad yn rhoi’r bai ar Ewrop, a dyna’n union ddigwyddodd,” meddai Myrddin ap Dafydd.

Dyma felly fynd at Gomisiynydd y Gymraeg a aeth i grombil y peth a darganfod mai deddf o Lundain oedd yn gwahardd mesurau Cymraeg , nid Ewrop. Ar ôl mynd yn ôl at swyddogion San Steffan, fe ddywedon nhw y tro yma eu bod yn pryderu na fyddai pobol yn medru deall y gair ‘peint’ a bod hynny’n beryg i’r cyhoedd.

“Faint o beintiau sydd rhaid i rywun ei yfed cyn eu bod nhw’n dallt mae peint ydy ystyr y gair PEINT ar y gwydr?”. Doedd gan San Steffan ddim ateb i hynny, meddai Myrddin ap Dafydd.

Ar ôl dwy flynedd o gyhuddo San Steffan “o imperialaeth ac nad oedden nhw’n hidio dim am unrhyw ddiwylliant arall oni bai am eu diwylliant nhw eu hunain,” cafodd y bragdy’r hawl i roi PEINT ar eu gwydrau.

Buddugoliaeth

“Dwi wedi sylwi faint mor fawr ydy’r fuddugoliaeth – da ni’n cael hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn rhywbeth swyddogol, ar ei ben ei hun am y tro cyntaf falle – ar fater sydd heb ei ddatganoli,” meddai Myrddin ap Dafydd.

“Roedd rhywun yn mynd i laru ar y peth, ond er cyn lleied peth ydy o mewn un ystyr mae o’n rhywbeth mawr hefyd. Ac yng nghyd-destun y dyfodol, mae’n rhoi cynsail cryf i’r Gymraeg ac yn agor drysau iddi gael ei defnyddio ar ei phen ei hun mewn sawl maes arall.”

“Rydym ni hefyd yn gobeithio bydd ymwelwyr yn ymddiddori mewn rhywbeth gwahanol – mae’r Gymraeg yn rhan o’n brand ni ym Mhen Llŷn. Fe fydd yr holl brofiad yn borth iddyn nhw at y Gymraeg a’r diwylliant a’r traddodiadau.

“Mi fysa’n dda i bob bragdy yng Nghymru arddel yr hawl yma sydd ganddom ni bellach i ddefnyddio PEINT yn hytrach na PINT ac i yfed peint Gymraeg.”

Bydd y gwydrau cyntaf gyda’r gair PEINT yn cael eu lansio mewn gŵyl gwrw ym mragdy Cwrw Llŷn yn Nefyn ar 26 Gorffennaf, ac wedyn yn cael eu defnyddio gan dafarndai sy’n gwerthu’r cwrw.