Actores o Gaerdydd sy’n enwog am ei rhan yn y gyfres Casualty yw enillydd cyfres Cariad@Iaith eleni.

Suzanne Packer ddaeth i’r brig neithiwr yn ffeinal y gyfres ar S4C, gan guro saith seren arall a fu’n dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn.  Bu’n gweithio’n galed ar ei Chymraeg, meddai.

“Roedd hi’n dipyn o sioc i mi fy mod i wedi ennill ond ro’n i wedi gwirioni a dweud y gwir,” meddai’r actores sy’n chwaer i’r athletwr Colin Jackson.

”Ond heb air o gelwydd mi wnes i weithio yn galed iawn iawn yn ystod yr wythnos.”

Bwrw pleidlais

Treuliodd y sêr wythnos yn Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn yn dysgu Cymraeg gyda chamerâu S4C yn eu dilyn.

Wedi wythnos o ddysgu roedd gofyn i’r dysgwyr fwrw eu pleidlais gan ddweud pwy, yn eu tyb nhw, oedd wedi bod ar y siwrnai fwyaf yn ystod yr wythnos.

Dywedodd Suzanne Packer nad dyma’r tro cyntaf iddi geisdio dysgu Cymraeg.

“Rydw i wedi ceisio dysgu siarad Cymraeg fwy nac unwaith yn y gorffennol ond wedi methu dro ar ôl tro am nifer o resymau, felly’r tro hwn roeddwn i’n benderfynol.

“Pan ddes i i Gaerdydd i weithio ar Casualty gyntaf nes i benderfynu rhoi addysg Gymraeg i fy mab, Paris, sy’n unarddeg, ac yn ddiweddar nes i benderfynu unwaith ac am byth fy mod eisiau gallu siarad Cymraeg gyda Paris adref.

“Mae wedi bod yn gofyn i mi trwy’r wythnos, ‘Mam, pwy sydd yn ennill Cariad@Iaith?’ ond doeddwn i heb ddweud wrtho felly roedd yn dipyn o sypreis ar y noson!

”Roedd ei Gymraeg yn well na f’un i erbyn iddo gyrraedd pump neu chwech oed, ond nawr gan ei fod tipyn bach yn hyn mae’n deall bod angen llawer o help arna i ac mae’n ceisio fy nysgu chwarae teg.

Cyflwynydd wedi ei phlesio

Roedd y dulliau dysgu yn effeithiol meddai Suzanne Packer.

“Roedd Cariad@Iaith yn brofiad arbennig, ac roedd y dull dysgu, desuggestopedia, yn gweithio yn wych i mi. Dwi wedi dod yn llawer mwy hyderus ac yn benderfynol o barhau – dwi eisioes wedi trefnu i gael gwersi un wrth un bob wythnos gyda Siân Jones yma yng Nghaerdydd.”

Roedd un o’r cyflwynwyr hefyd wedi ei phlesio gan ymroddiad Suzanne Packer.

“Roedd Suzanne yn ddiwyd, yn weithgar ac yn gydwybodol yn y dosbarth, yn barod i daflu ei hun mewn a bod yn rhan o’r holl weithgarwch,” meddai Nia Parry, oedd yn cyd-gyflwyno’r gyfres gyda Matt Johnson yn ogystal â dysgu Cymraeg i’r criw gyda’i chyd-diwtor Ioan Talfryn.

“Mae gan Suzanne gymhwyster dysgu ac roedd hyn yn amlwg o’r ffordd roedd hi’n ymdrin â’i chyd-ddysgwyr.  Roedd hi wastad yn barod i’w cynorthwyo a’u cefnogi ac roedd yn annwyl, yn famol ac yn fugeiliol o hyd,” meddai Nia Parry.

”Roedd ganddi gryn dipyn o Gymraeg cyn dod ar Cariad@Iaith ond dw i’n teimlo ein bod wedi ei gweld yn blodeuo yn ystod yr wythnos.

Yn wobr am ennill derbyniodd Suzanne Packer blât ceramig arbennig wedi ei ddylunio gan yr artist Buddug Humphreys, gyda ‘Cenedl Heb Iaith Cenedl Heb Galon’ wedi ei ysgrifennu arni.

Roedd y saith dysgwr arall hefyd yn derbyn llwy garu wedi ei dylunio gan Buddug Humphreys. Y saith oedd yr actores Siân Reeves, y cantorion Ian ‘H’ Watkins o STEPS a John Owen-Jones, y cyn gôl-geidwad rhyngwladol Neville Southall, enillydd ‘Big Brother’ 2013 Sam Evans, Jenna Jonathan o gyfres MTV ‘The Valleys’ a Behnaz Akhgar sy’n gyflwynydd tywydd ar wasanaethau BBC Cymru.