Peter Hain
Mae cyn Ysgrifennydd Cymru’n dweud bod cwestiynau i’w hateb o hyd ynghylch trychineb Glofa’r Gleision yng Nghwm Tawe.

Yn ôl Peter Hain, yr aelod seneddol lleol, doedd yr achos llys a ddaeth i ben ddoe ddim wedi ateb un o’r cwestiynau pwysica’ – pam fod y glowyr yn gweithio tuag at ardal lle’r oedd dŵr tanddaear.

Mae am ysgrifennu at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, meddai, yn gofyn am adroddiad am eu casgliadau nhw o’u hymchwiliad i’r ddamwain ym mis Medi 2011 pan gafodd pedwar glöwr eu lladd.

“Yn amlwg roedd methiannau mawr yn y digwyddiad yma,” meddai wrth raglen newyddion Radio Wales, ychydig oriau ar ôl i reithgor gael rheolwr y pwll a’r perchnogion yn ddieuog o gyhuddiadau o ddynladdiad.

‘Cwestiwn heb ei ateb’

“Dyw’r achos ddim wedi cael yr ateb i un o’r prif gwestiynau … pam oedden nhw’n gweithio tuag at ardal oedd wedi cael ei nodi yn fan lle’r oedd dŵr tanddaear,” meddai AS Castell Nedd Port Talbot.

“Mae’n ymddangos i fi mai dyna’r cwestiwn na wnaeth yr achos llys ei ateb.”

Doedd arolygydd pyllau, meddai, ddim yn ymwybodol fod y glowyr yn gweithio yn y rhan hwnnw o’r pwll,  meddai Peter Hain.

Ac roedd hi wedi ei nodi’n glir bod dŵr tanddaear yno.