Malcolm Fyfield
Mae Malcolm Fyfield, cyn reolwr pwll glo’r Gleision, wedi ei gael yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad yn Llys y Goron Abertawe.

Mae perchnogion y pwll, MNS Mining, hefyd wedi eu cael yn ddieuog o ddynladdiad corfforaethol trwy esgeulustod difrifol.

Roedd Malcolm Fyfield a pherchnogion y pwll, MNS Mining wedi gwadu’r cyhuddiadau.

Cafodd pedwar o lowyr eu lladd yn 2011 pan lifodd galwyni o ddŵr i mewn i’r pwll ger Pontardawe, yn dilyn ffrwydrad i dorri glo brig.

Bu farw Philip Hill (44), Charles Breslin (62), David Powell (50) a Garry Jenkins (39) yn y trychineb. Llwyddodd Malcolm Fyfield i ddianc.

Roedd Fyfield, 58, wedi bod yn rheolwr ers ychydig wythnosau’n unig.

Roedd yr erlyniad wedi honni bod Malcolm Fyfield yn esgeulus drwy ganiatáu i’r glowyr dyllu mewn safle lle’r oedd dwr yn bresennol dan ddaear.

Ond roedd y rheolwr wedi mynnu ei fod wedi archwilio’r safle’r noson cyn y trychineb ac nad oedd dwr yn bresennol.

Fe gymerodd y rheithgor ychydig llai na dwy awr i’w gael yn ddieuog.

Roedd Malcolm Fyfield yn ei ddagrau wrth i’r rheithgor gyhoeddi eu dyfarniad, ac fe gofleidiodd ei wraig, Gillian.

Gwrthododd siarad â newyddiadurwyr wrth iddo adael y llys gyda’i wraig a’i frawd.

‘Anodd’

Dywedodd y barnwr, Wyn Williams, bod yr achos wedi bod yn un “hynod o anodd” i bawb oedd yn ynghlwm a hi.

Fe wnaeth o hefyd dalu teyrnged i’r rheithwyr gan eu hesgusodi rhag  gwasanaethu ar reithgor byth eto.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu De Cymru mai prif nod yr heddlu, ar y cyd a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, oedd sefydlu be ddigwyddodd yn y pwll – nid yn unig ar gyfer yr ymchwiliad, ond hefyd ar gyfer y teuluoedd.

Meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Dorian Lloyd: “Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i’r teuluoedd am eu hamynedd a’u cefnogaeth i’r tîm ymchwilio.

“Hefyd, ar ran Heddlu De Cymru, hoffwn ddiolch i bob aelod o’r gymuned leol am eu cefnogaeth trwy gydol y broses ymchwilio.”

Datganiad y teuluoedd

Dywedodd y teuluoedd mewn datganiad ar y cyd ei fod wedi bod yn ddiwrnod anodd iddyn nhw i gyd.

Meddai’r datganiad: “Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i ni gyd – fel y bu’r ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ers i ni golli ein hanwyliaid ym Mhwll y Gleision.

“Rydym yn gweld eisiau Garry, Philip, Charles a David yn fawr iawn.

“Hoffem ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith achub, gan gynnwys y Tîm Achub Pyllau Glo a’r holl wirfoddolwyr. Rydym wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan y gymuned a swyddogion cyswllt yr heddlu.

“Gan fod yr achos llys wedi dod i ben erbyn hyn, ac rydym wedi clywed am y tro cyntaf yr hyn ddigwyddodd yn y pwll, gofynnwn am gael llonydd i symud ymlaen â’n bywydau – er na fydd y dynion a gollom fyth yn mynd yn angof.”

‘Atgofion poenus’

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, y bydd y dyfarniad heddiw unwaith eto’n “codi atgofion poenus i’r teuluoedd a’r gymuned.”

Ychwanegodd bod ei feddyliau gyda’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y drasiedi.