Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn lleol i bedwar o bobl fu farw mewn damwain ffordd ar yr A44 yng nghanolbarth Cymru bnawn ddoe.

Roedd John Kehoe, 72, a’i wraig Margaret, 65, partner i ferch y cwpl, Martin Pugh, 47, a’i nith ef Alison Hind, 28, yn dod o dref Llanidloes.

Bu farw’r pedwar yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tancer Scania, car Ford Focus a fan Ford Transit tua 2.55yp ddydd Mawrth, ar y ffordd rhwng Llangurig a Phonterwyd.

Mae merch Alison Hind, Holly Hind, sy’n 18 mis oed, yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Credir mai Martin Pugh, partner merch John a Margaret Kehoe, oedd yn gyrru’r car.

Roedd y Ford Focus yn teithio i gyfeiriad y dwyrain ar yr A44 a’r fan yn teithio tu ôl i’r car i’r un cyfeiriad. Roedd y tancer yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Teyrnged

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r teulu yn lleol ac fe ddywedodd cynghorydd Llanidloes, Gareth Morgan:

“Mae pawb yn drist iawn. Allwch chi bron ddim dychmygu ddim byd llawer gwaeth na hyn.

“Rydym ni’n gymuned glos iawn ac mae hi am gymryd amser i bawb ddygymod a’r newydd yma.”

Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed Powys i achos y ddamwain yn parhau. Maen nhw’n apelio ar unrhyw un a welodd y cerbydau tuag adeg y ddamwain i gysylltu a nhw ar 101.