Mae disgwyl i fanylion am y parthau .cymru a .wales ar gyfer y we gael eu cyhoeddi heddiw.

Bydd rheolau a phrosesau’n cael eu cyhoeddi yn dilyn tri mis o ymgynghoriad ac mae cwmni ymgynghori Positif yn dweud eu bod nhw’n hyderus y byddan nhw’n gallu “creu fframwaith polisi cryf a fydd yn caniatáu i .cymru a .wales ddatblygu ac ehangu”.

Rhan o’r broses ymgynghori oedd sicrhau bod y parthau’n addas ar gyfer busnesau Cymru ac i’r defnydd o’r Gymraeg ar-lein.

Daeth cadarnhad heddiw y bydd y parthau ar gael i fusnesau cyn y byddan nhw ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Fel rhan o’r parthau newydd, fe fydd modd i fusnesau ac unigolion ddefnyddio acenion y Gymraeg, sy’n “ddull unigryw sydd wedi cael ei ddatblygu yn arbennig ar gyfer .cymru a .wales”.

Mae busnesau wedi cael gwahoddiad i gofrestru ar gyfer nod masnach newydd gyda’r ‘Trademark Clearing House’ cyn diwedd mis Gorffennaf.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: “Hoffem ddiolch i bawb wnaeth ymateb a gwnaeth ein helpu i ddatblygu cynigion.

“Rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r ymatebion gwnaethom dderbyn a datganiad polisi sy’n nodi ein casgliadau yn dilyn yr ymgynghoriad yn Rhagfyr 2012.”

Crynodeb o’r polisi:

–          Gofyn i ailwerthwyr parthau sy’n gwerthu enwau parth i’r cyhoedd sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg

–          Bydd dewis gan fusnesau i gofrestru gyda .cymru, .wales neu’r ddau

–          Bydd canolfan alw ddwyieithog ar gael i helpu defnyddwyr

–          Sefydlu Cynllun Iaith Gymraeg gwirfoddol

Mae modd gweld y polisi llawn yma.

‘Cyfle cyffrous’

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Nominet, Ieuan Evans: “Mae’r parthau .cymru a .wales newydd yn gyfle cyffrous i Gymru cyrraedd ei lawn botensial ar-lein gan greu platfform a fydd yn caniatáu i Frand Cymru cael ei gydnabod yn fyd-eang.

“Rydym yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod yr enwau parth hyn yn gweithio i bawb yng Nghymru a’u bod yn galluogi pobl i greu a defnyddio cynnwys yn y Gymraeg.”

Dywedodd Jo Golley, sy’n arwain Tîm Cymru Nominet: “Cyhoeddiad ein dogfen polisi yw’r cam nesaf yn ein bwriad i roi platfform ar-lein newydd i Gymru er mwyn adeiladu brand Cymru.

Wedi i ni weithio am dros ddwy flynedd gyda Llywodraeth Cymru a busnesau a sefydliadau allweddol Cymreig, rydym yn hyderus ein bod bellach yn y sefyllfa gorau i gyflwyno parthau sydd yn fwy perthnasol i Gymru.

“Heddiw, rydym wedi cadarnhau ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg ymhellach. Rydym wedi cyflwyno mesurau technegol eang er mwyn caniatáu defnydd o acenion er mwyn sicrhau bod modd i bobl defnyddio amrywiaeth a chynildeb yr iaith Gymraeg ar-lein. Fe fydd y camau allweddol hyn yn caniatáu cynnydd anferthol yn enwau parth Cymraeg ar y rhyngrwyd.”