Y Byd ar Bedwar yn ceisio siarad a Neal Atkins (llun: Gwyn Loader)
Mae adeiladwr sydd wedi derbyn dros £500,000 o arian cyhoeddus wedi gwrthod talu contractwyr a chwblhau gwaith ar stad o dai, yn ôl honiadau sydd wedi’u gwneud i raglen materion cyfoes.

Heno mae Y Byd ar Bedwar yn ymchwilio i hanes Neal Atkins o gwmni NBA Developments, yn dilyn cyhuddiadau gan weithwyr sydd yn dweud nad yw’r adeiladwr o Gwm Gwendraeth wedi eu talu.

Yn ôl un töwr, Brian Griffiths o Bontarddulais, mae wedi colli £9,000 ar ôl gosod chwe tho i gwmni Neal Atkins heb gael ei dalu.

“Gorffes i gael debt collections agency mewn i chaso’r arian o’dd arno fe i fi,” meddai Brian Griffiths. “Ro’n nhw’n hala llythyron a do’dd e ddim yn ateb y ffôn.

“Nes i hala tua mil o bunne yn trio chaso fe a ges i ddim ceiniog mas o fe.”

Cwynion

Ar y rhaglen mae sawl cwyn arall gan gwmnïau a phrynwyr tai ar stadau mae Neal Atkins wedi eu codi yn Sir Gar.

Mae preswylwyr yn cwyno bod pafinau a hewlydd heb eu cwblhau, goleuadau stryd heb eu codi a’r cyngor ddim yn casglu sbwriel – a hynny ers hyd at naw mlynedd.

Daw’r honiadau wedi i gwmni NBA Developments dderbyn dros hanner miliwn o bunnoedd gan Gyllid Cymru, corff sydd yn dod o dan adain Llywodraeth Cymru, fis Rhagfyr diwethaf.

Mewn datganiad, cafodd y cwmni ei ddisgrifio gan swyddog buddsoddi Cyllid Cymru fel un “uchel ei barch sydd wedi cwblhau nifer o brosiectau o ansawdd uchel”, ond mae rhai preswylwyr yn gandryll a’r disgrifiad hwnnw.

“Gall Cyllid Cymru gadarnhau ei fod wedi buddsoddi yng nghwmni NBA Developments, ond gallwn ni ddim gwneud sylw ar y buddsoddiadau cyfrinachol hynny,” meddai datganiad gan y corff.

“Rydyn ni’n gwirio pob cais am fenthyciad yn ofalus ac mae’r broses honno’n cynnwys profion ariannol eang a phrofion i sicrhau bod ymgeisydd yn gymwys.”

Ond yn ôl Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae cwestiynau mawr i’w gofyn ynglŷn â  pham bod Neal Atkins wedi derbyn arian cyhoeddus.

“Pam bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi benthyciadau i ddatblygwr sydd yn adeiladu stadau heb eu gorffen a gwaith eto i’w wneud ar yr ystadau hynny?” gofynnodd yr AS.

Mae Neal Atkins eisoes wedi gwrthod cais am gyfweliad, ond mewn datganiad dywedodd NBA Developments eu bod yn “gwmni bach, lleol sydd wedi … parhau i greu tai o ansawdd uchel a gwaith yn y gymuned leol. Rydyn ni’n falch o safon uchel ein datblygiadau a’n gwasanaeth.”

Bydd Y Byd ar Bedwar: Tipyn o stad yn cael ei darlledu heno am 10yh ar S4C.