Mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith wedi sefydlu gwersyll o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd, cyn i Carwyn Jones wneud datganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddydd Mawrth.

Mae’r ymgyrchwyr iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb ar frys i’r “argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg”, yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad lle gwelwyd bod cwymp yn nifer y siaradwyr.

Disgwylir y bydd Carwyn Jones yn gwneud datganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ganlyniadau’r  Cyfrifiad yfory – sy’n flwyddyn ers i’r Llywodraeth gynnal ymgynghoriad ar sefyllfa’r iaith, sef Y Gynhadledd Fawr.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, fe fyddan nhw’n defnyddio eu chwe phrif alwad polisi fel meini prawf ar gyfer asesu datganiad y Prif Weinidog sy’n cynnwys addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i’r Gymraeg a threfn gynllunio newydd.

Esgusodion

Meddai Cen Llwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae gan Carwyn Jones gyfle i weithredu’n ddewr yr wythnos yma; hynny wedi deunaw mis o oedi, esgusodion, a datganiadau chwerthinllyd ganddo fe.

“Ydy Carwyn Cysglyd Jones yn mynd i ddeffro? Dyna’r cwestiynau a gaiff eu hateb yr wythnos yma.”

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Ers deunaw mis, ‘dan ni wedi llythyra a chynnal cyfarfodydd efo aelodau pob plaid.

“Wrth brotestio yma, ‘dan ni’n dal i obeithio y gwelwn ni newid cadarnhaol, achos efo ewyllys gwleidyddol, mi allai’r iaith ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.”

Cafodd Robin Farrar ynghyd a chyn-gadeirydd y mudiad, Bethan Williams, eu harestio ym mis Ebrill, mewn protest dros ddiffyg gweithredu’r Llywodraeth yn swyddfeydd y Llywodraeth yn Aberystwyth.