Meri Huws ar raglen Y Byd ar Bedwar yn ddiweddar
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cwyno nad ydy Comisiynydd y Gymraeg wedi creu amserlen ar gyfer gosod dyletswyddau iaith ar gwmnïau trydan, nwy a ffonau symudol, a’i bod wedi eu heithrio nhw o’r drefn o greu Safonau.
Ond mae Meri Huws yn dweud bod yr ymgyrchwyr wedi drysu a ddim yn deall y drefn o sefydlu’r Safonau, ac yn addo y bydd amserlen yn ei lle ar gyfer y cwmnïau cyn diwedd y flwyddyn.
Yn ôl Cadeirydd y Gymdeithas maen nhw wedi gofyn droeon mewn cyfarfodydd gyda’r Comisiynydd pam nad oes amserlen ar gyfer y “cwmnïau mawrion hyn sy’n cael cymaint o ddylanwad ar ein bywydau bob dydd”.
“Rydan ni’n methu cael synnwyr gan y Comisiynydd ar y mater,” meddai Robin Farrar.
“Trwy eithrio’r cwmnïau mawrion hyn sy’n cael cymaint o ddylanwad ar ein bywydau bob dydd, rydan ni’n credu bod y Comisiynydd methu â chadw at ei phrif nod yn adran 3 [Mesur y Gymraeg 2011]. Mae hynny’n fater difrifol iawn.”
Y Gymdeithas yn “ffeithiol anghywir”
Ond mae Comisiynydd y Gymraeg wedi wfftio honiadau’r Gymdeithas.
“Mae’n ffeithiol anghywir i ddweud bod y Comisiynydd wedi ‘eithrio’ unrhyw sefydliadau o’r broses cyflwyno safonau,” meddai llefarydd y Comisiynydd mewn datganiad.
“Ar 27 Ionawr eleni cyhoeddodd y Comisiynydd ei rhaglen cynnal ymchwiliadau safonau. Bydd ymchwiliadau safonau mewn perthynas â sefydliadau iechyd, addysg a rhai cyrff yn y trydydd sector a’r sector preifat yn cael eu cynnal rhwng mis Medi eleni a mis Mawrth 2015. Mae’r sefydliadau hyn, yn fyrddau iechyd a sefydliadau addysg, yn cyffwrdd bywydau cannoedd o filoedd o Gymry. Mae gan y rhan fwyaf gynlluniau iaith statudol neu wirfoddol a bydd safonau’n disodli’r cynlluniau hyn. Bydd y trydydd cylch yn rhedeg o fis Mai 2015 hyd fis Medi 2015.
“Cyhoeddodd y Comisiynydd o’r dechrau y bydd yn gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch pa bryd y bydd yn cynnal ymchwiliad safonau mewn perthynas â sectorau a sefydliadau eraill yn ystod 2014. Bydd y Comisiynydd yn parhau gydag ymchwiliadau safonau hyd nes y bydd yr holl gyrff sy’n cael eu henwi yn Atodlenni 5, 6, 7 ac 8 Mesur y Gymraeg wedi bod drwy’r broses.”