Bydd Dafydd Iwan yn rhan o seremoni groesawu’r ras
Ysgol Gyfun Penweddig sy’n gyfrifol am greu baton cyntaf erioed Ras yr Iaith, fydd yn cael ei phasio o law i law ar hyd taith y Ras o Fachynlleth i Aberteifi ar ddydd Gwener 20 Mehefin.

Gerallt Williams, Pennaeth Adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Penweddig ac Wyn Moon o Dole fu’n gyfrifol am y baton, gafodd ei noddi gan Fentrau Iaith Cymru.

“Mae Wyn yn gyn-ddisgybl ym Mhenweddig ac mae ganddo blentyn yn yr ysgol ar hyn o bryd a digwyddais sôn wrtho am y cyfle i Ysgol Penweddig greu’r baton ar gyfer Ras yr Iaith,” esboniodd Gerallt Williams.

“Mae’n bleser ac anrhydedd cael ein gofyn i greu baton pwysig fel hyn – yn enwedig y baton i’r Ras yr Iaith gyntaf erioed. Rydym yn falch fel ysgol o gefnogi menter bwysig bydd yn hybu’r iaith Gymraeg a’n diwylliant.”

Yn ogystal mae Emily Cole, Cydlynydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru, yn cydnabod symbolaeth y baton.

“Mae neges y Ras yn glir – rydym am basio’r baton o berson i berson fel byddwn ni’n pasio’r iaith o berson i berson ac o genhedlaeth i genhedlaeth,” meddai.

Y tu fewn i’r baton fe fydd cerdd sydd wedi ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer Ras yr Iaith gan y Prifardd o Aberteifi, Ceri Wyn Jones.

Cynhelir Ras yr Iaith ar ddydd Gwener 20 Mehefin gan redeg drwy ganol trefi Machynlleth, Aberystwyth, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Cei Newydd, Llandysul, Castell Newydd Emlyn, a gorffen yn Aberteifi.

Mae’r ras yn seiliedig ar rasys hwyl eraill dros ieithoedd Llydaw, Iwerddon a Gwlad y Basg, ac fe fydd yr elw a godir o’r ras yn cael ei fuddsoddi ar ffurf grantiau i hybu’r Gymraeg yn yr ardal.

Ymysg y sêr sy’n cefnogi’r ras mae Dewi Pws a gyfansoddodd can y ras, ‘Ymlaen, Ymlaen’, a recordiwyd gyda’r grŵp ifanc o Aberystwyth, Y Mellt.

Bydd Dafydd Iwan yn rhan o seremoni groesawu’r ras ar Gei Aberteifi a bydd y gantores Shân Cothi yn ymuno â’r ras yn Llanbedr Pont Steffan.