Y brotest yn Aberystwyth
Fe fydd dau aelod blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith yn ymddangos gerbron llys ynadon heddiw yn dilyn protest y tu allan i adeilad Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth.

Paentiodd y Cadeirydd Robin Farrar a’r cyn-gadeirydd Bethan Williams sloganau ar wal y tu allan i’r adeilad yn ystod protest yn erbyn “diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad”.

Roedd y brotest yn un o nifer yn galw am ymgorffori’r “chwe pheth” – chwe phwynt sylfaenol yn eu polisïau’n ymwneud â’r Gymraeg.

Roedd y “chwe pheth” yn galw am addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i’r Gymraeg a threfn gynllunio newydd.

‘Strygl’

Wrth ymateb i bryderon ynghylch cyflwyno safonau’r iaith, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Arfon, Alun Ffred Jones wrth raglen y Post Cyntaf y BBC bore ma: “Mae ’di bod yn strygl i ni gyrraedd fan hyn.

“Mae rhestr o safonau wedi cael eu cytuno ond dydyn nhw ddim wedi cael eu gweithredu.

“Mae ’di cymryd llawer gormod o amser i gyrraedd fan hyn.

“O ran gweithredu, ychydig iawn sy wedi digwydd.

“Does ’na ddim teimlad o fomentwm nac o frwdfrydedd.

“Dan ni’n dal i ddisgwyl am unrhyw weithredu.”

‘Dim brwdfrydedd’

Ychwanegodd: “Dach chi ’di cael tair blynedd o’r Llywodraeth presennol – un ai mae llywodraethau’n gwneud pethau neu dydyn nhw ddim.

“Nid mater o feirniadu Carwyn Jones ydi o.

“Ond does dim commitment, dim brwdfrydedd.

“Dwi erioed wedi deall be sy’n digwydd o safbwynt y Gymraeg. Dy’n nhw ddim wedi dangos unrhyw gyfeiriad.

“Dan ni ddim wedi clywed be mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud i hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad.”