Mae’r newyddiadurwr Paul Rees wedi beirniadu ymddygiad Undeb Rygbi Cymru ar ôl i wahoddiad iddo ymddangos ar raglen radio Scrum V gael ei dynnu yn ôl, gan eu cyhuddo o “ddychryn y cyfryngau”.

Cafodd Rees, sydd yn ohebydd rygbi i bapur y Guardian, wahoddiad i fynd ar y rhaglen Radio Wales fis diwethaf er mwyn trafod rygbi Cymru.

Ond ar ôl dweud y byddai’n feirniadol o Undeb Rygbi Cymru, fe benderfynodd uwch-swyddogion yn y BBC dynnu’r gwahoddiad yn ôl.

Cafodd y mater ei ddatgelu yn ddiweddar gan wefan WalesEye, a ddywedodd eu bod wedi siarad ag aelod staff o adran chwaraeon BBC Cymru oedd yn digalonni eu bod yn cael cyfarwyddyd nad oedd rhai pethau’n briodol eu dweud pan oedden nhw’n paratoi rhaglenni.

Cyhuddodd Paul Rees  Undeb Rygbi Cymru o roi pwysau ar y darlledwr i beidio â’i gynnwys ar y rhaglen, gan fynegi rhwystredigaeth ynglŷn â’r agwedd honno gan yr Undeb.

Mewn ymateb i golwg360 dywedodd Undeb Rygbi Cymru nad oedd ganddyn nhw sylw i’w wneud ynglŷn â sylwadau Paul Rees, ond nad oedd unrhyw sail ffeithiol iddynt a’u bod yn gwadu’r cwbl.

Polisi o “ddychryn y cyfryngau”

Mynnodd Rees fod Undeb Rygbi Cymru’n gwrthod caniatáu trafodaeth agored ynglŷn â rygbi yng Nghymru, gan eu cyhuddo o roi pwysau ar y cyfryngau pan ddaw at drafod y mater.

“Beth oedd yn siomedig i mi yw nid fod y gwahoddiad [gan y BBC] wedi’i dynnu nôl ond fod polisi URC o ddychryn y cyfryngau wedi llwyddo,” meddai Paul Rees wrth golwg360.

“Mae corff sydd yn ddigon bodlon cael ei drin â gwaseidd-dra gan rai yn ddirmygus hyd yn oed o ymdriniaeth gyfartal, heb sôn am un sydd yn tueddu’r ffordd arall.

“Mae’r digwyddiad yma’n atgyfnerthu’r angen am newid yn ogystal ag addewid gan URC na fydd yn y dyfodol yn rhoi pwysau golygyddol ar sefydliad, ac felly blacmelio, y mae mewn trafodaethau â nhw.

“Does dim siawns o hynny gyda’r rheolwyr presennol, ond y mwyaf mae’n ceisio mygu gwrthwynebiad i’w dull canolog, elitaidd nhw, y mwyaf mae’n tyfu.”

Tynnu’r gwahoddiad nôl

Yn wreiddiol roedd Paul Rees wedi gwrthod gwahoddiad i ymddangos ar raglen radio Scrum V BBC Radio Wales, cyn dweud iddo gael sgwrs â’r cynhyrchydd a ofynnodd iddo ailystyried.

Dywedodd Rees y byddai’n ailystyried cyn belled â bod BBC Wales yn gyfforddus y byddai’n dadlau yn erbyn URC, a dyna pryd y cafodd y gwahoddiad ei dynnu nôl.

“Cefais alwad i ddweud na fyddai fy angen,” esboniodd Paul Rees.

“Doedd dim angen esboniad oherwydd roeddwn i’n gwybod fod URC  wedi rhoi’r BBC dan bwysau wrth lythyru yn honni tuedd yn y ffordd roedden nhw’n ymdrin â’r ffrae rhwng yr Undeb a’r rhanbarthau a bod y mater wedi mynd fyny’r grisiau i’r cyfreithwyr.

“Dyna pam roedd hi’n bwysig fod y BBC yn gwybod beth fyddwn i’n ei ddweud ar raglen fyw.”

Roedd Paul Rees eisoes wedi ymddangos ar raglen banel Week In Week Out ym mis Ionawr yn trafod yr anghydfod yn rygbi Cymru, ac wedi dadlau yn erbyn safbwynt Undeb Rygbi Cymru ar y pryd.

Dywedodd nad oedd wedi trafod y pwnc yn gyhoeddus ers hynny oherwydd ei fod yn teimlo nad oedd wedi bod yn wrthrychol ar y pryd, a bod URC wedi gwneud cwyn am hynny i’r BBC.

“Doeddwn i ddim eisiau cael fy ngweld fel yr un i alw arno pan oedd angen llais gwrth-URC,” esboniodd Paul Rees, a bwysleisiodd ei fod wedi cefnogi’r Undeb ar faterion yn y gorffennol.

“I mi, mae wastad ynglŷn â’r mater wrth law,” mynnodd y newyddiadurwr.

Ymateb y BBC

Mewn ymateb fe wadodd llefarydd ar ran BBC Cymru Wales honiadau erthygl WalesEye fod ymchwiliad wedi dechrau i’r mater, gan fynnu bod safbwyntiau gwahanol yn cael eu croesawu ar raglenni.

“Nid oes ymchwiliad ar y gweill ac ni chafodd unrhyw un ei atal rhag cyfrannu i un o raglenni’r BBC,” meddai’r datganiad. “Mae’r BBC yn ddiduedd a byddwn yn parhau i gynnig amrywiaeth o safbwyntiau ar y pwnc yma yn y dyfodol.”