Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau mai cwmni Watkin Jones sydd wedi ennill y cytundeb i adeiladu ysgol ardal newydd gwerth £4.8 miliwn i blant Y Groeslon, Carmel a’r Fron.

Bydd y cwmni lleol o Wynedd yn cychwyn y gwaith o adeiladu’r ysgol newydd ddydd Llun 16 Mehefin ac mae disgwyl iddi agor ei drysau ym mis Medi 2015.

Fe wnaeth y bwriad i gau ysgolion Cymraeg yn yr ardal ennyn beirniadaeth lem gan rieni, ond mae cynghorwyr yn credu bydd y cynllun newydd o les i’r gymuned:

“Mae swyddogion y Cyngor wedi llunio cynlluniau cyffrous ar gyfer yr ysgol, ac rwy’n sicr pan fydd yr ysgol newydd yn agor, y bydd yn darparu awyrgylch dysgu modern arbennig ar gyfer plant Y Groeslon, Carmel a’r Fron,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd.

“Ein nod yw sicrhau fod gan holl ddisgyblion Gwynedd fynediad i gyfleusterau addysg o’r radd flaenaf.”

Cwmni lleol

Ychwanegodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd yn arwain ar faterion eiddo:

“O ran y prosiect hwn, rydym yn hynod falch fod cwmni o Wynedd wedi dod i’r brig yn dilyn proses dendro agored. Yn benodol cawsom ein plesio yn arw gan ymrwymiad y cwmni i ddefnyddio gweithwyr lleol, isgontractwyr lleol gan wneud y mwyaf o’r gadwyn gyflenwad lleol.

“O ganlyniad, dyma sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill gydag ysgol newydd o’r radd flaenaf yn cael ei darparu i ddisgyblion lleol yn ogystal â chynnig hwb i’r economi adeiladu leol.”

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd grŵp, gofod ymarferol, neuadd fodern, cyfleusterau ar gyfer staff a sawl ardal chwarae i’r plant.