Mae mudiadau sy’n ymgyrchu dros y Gymraeg wedi beirniadu proses ymgynghori’r Llywodraeth ar y Safonau iaith am yr eildro.

Cyhoeddodd golwg360 a Golwg ym mis Mai bod “dryswch” ac “anawsterau” wedi codi yn y broses ymgynghori ar y Safonau, gan nad oedd hi’n glir ai’r Comisiynydd yntau Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y gwaith.

Ac mae’r corff ymbarél Mudiadau Dathlu’r Gymraeg – sy’n cynnwys 26 o sefydliadau amlwg gan gynnwys Merched y Wawr, Undeb Amaethwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru – yn honni unwaith eto nad ydyn nhw wedi cael digon o lais yn yr ymgynghoriad.

Gwadu hyn mae’r Llywodraeth, gan fynnu ei bod wedi bod yn broses dryloyw ac y bydden nhw’n “gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r Safonau cyn gosod y Rheoliadau.”

Y Safonau fydd, maes o law, yn nodi cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau drwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

‘Proses od’

“Roedd hi’n broses od o’i gymharu hefo ymgynghoriadau eraill gan y Llywodraeth,” meddai Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, Penri Williams.

“Roedd y safonau drafft wedi cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth ond doedden nhw heb gael llawer o sylw – roedden nhw wedi gadael hynny i’r Comisiynydd.

“Roedd y ddau gorff yn gweithio ar wahân, ddim yn cydweithio o gwbl, a doedd hi ddim yn glir pwy oedd yn ymgynghori ar y safonau o’r lle cyntaf.”

Pryder am y cynnwys

Ychwanegodd: “Rydym ni hefyd yn bryderus ynglŷn â’r safonau eu hunain. Mae 134 ohonyn nhw a dyw hi ddim yn ddogfen y gall y cyhoedd ei deall yn hawdd.

“Maen nhw’n ormod i unrhyw un eu cymryd i mewn – mae angen iddyn nhw fod yn llawer mwy syml ac yn cario’r neges fod gan Gymry Cymraeg yr un hawl ac sydd gan unrhyw un arall i ddefnyddio eu hiaith.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad ynglŷn â’r ail set o safonau yn llawer mwy agored.”