Yr Ysgwrn
Mi fydd Yr Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, yn derbyn grant gwerth £2.8miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) er mwyn diogelu dyfodol yr adeilad.

Bydd y grant yn cael ei roi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a fydd yn gwarchod Yr Ysgwrn, ac yn diogelu sawl casgliad sydd yno gan gynnwys  “Y Gadair Ddu” – cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 a enillodd Hedd Wyn yn dilyn ei farwolaeth yn Fflandrys.

Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor CDL yng Nghymru, fe fydd yr arian yn “sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall pwysigrwydd y bardd Cymreig hynod hwn a’i waith.”

Mae’r grant yn rhan o raglen gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

‘Arloesol’

Ychwanegodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams mai nod y Parc yw sefydlu Yr Ysgwrn fel cyrchfan diwylliannol arloesol,” fydd yn cyfleu negeseuon am ddiwylliant, cymdeithas a rhyfel i bobol yn Eryri, Cymru a’r byd.”

“Mae hefyd yn ein caniatáu i ddiogelu casgliad unigryw o arteffactau ac archifau Yr Ysgwrn, yn ogystal â darparu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg a dehongli i ymwelwyr mewn modd sy’n cydnabod sensitifrwydd y safle hynod a hanesyddol hwn,” meddai.


Yr Ysgwrn
‘Cadw’r drws ar agor’

Mae ymwelwyr wedi cael eu croesawu i’r ffermdy yn Nhrawsfynydd ers marwolaeth y bardd yn 1917, wedi i’r teulu anrhydeddu’r addewid a wnaed i Fam Hedd Wyn y byddan nhw’n cadw’r drws ar agor.

Dywedodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, sy’n 85 mlwydd oed: “Mae cadw drws Yr Ysgwrn ar agor yn fodd o gadw cof fy ewythr yn fyw, ac er fy mod wedi croesawu ymwelwyr ar bob achlysur, nid oeddwn yn sicr y byddai modd parhau i wneud hyn yn y dyfodol.

“Mae pryniant Yr Ysgwrn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r grant a roddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi sicrhau y bydd y drws yn parhau ar agor ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol er mwyn iddynt dalu teyrnged a dysgu am Hedd Wyn.”