Mae Cymraes wedi marw yn dilyn damwain ffordd tra ar bererindod i famwlad ei heilun, Elvis Presley, yn America.

Yn ôl adroddiadau, roedd Andrea Baker wedi mynychu cyngerdd gan ei hoff ddynwaredwr Elvis ychydig funudau cyn cael ei bwrw i lawr gan yrrwr yn Memphis, Tennessee.

Fe fu farw’r ddynes o Sir Benfro ddau ddiwrnod yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Roedd Ms Baker wedi bod ar daith estynedig i’r Unol Daleithiau ac yn ymweld â hen gartref y canwr yn Graceland.

Mae’r South Wales Evening Post wedi adrodd bod ffans Elvis yn ceisio codi £6,500 i hebrwng ei chorff yn ôl i Hwlffordd.

‘‘Rhoddwyd gwybod i ni am farwolaeth dinesydd Prydeinig ar y 19ed o Fai. Rydym wedi darparu cymorth i’r teulu ar yr adeg anodd hon,’’ meddai llaefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.