Fe fydd yr arian sy’n cael ei wario ar noddi myfyrwyr prifysgol o Gymru yn codi tua £58 miliwn arall yn y flwyddyn academaidd nesa’.

Mae Cyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £385 miliwn ar gyfer prifysgolion, a hynny’n cynnwys £228 miliwn at dalu ffioedd dysgu myfyrwyr.

Mae hynny’n cynnwys talu ffioedd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio mewn prifysgolion yng ngweddill gwledydd Prydain – gwerth hyd at £5,135 y pen.

Mae’r arian hwnnw – sydd ar gyfer israddedigion amser llawn a myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon – yn cyfateb i 60% o holl adnoddau’r Cyngor Cyllido ar gyfer y flwyddyn.

Gwrthwynebiad

Mae dau brif wrthwynebiad wedi bod i’r taliadau, sydd heb fod ar gael i fyfyrwyr yn Lloegr.

Yn ôl rhai, mae hynny’n rhoi mantais annheg i fyfyrwyr o Gymru; yn ôl eraill, ddylai’r arian ddim mynd i fyfyrwyr sy’n astudio y tu allan i’r wlad.

Bydd yr arian hefyd ar gael i fyfyrwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n astudio yng Nghymru.

Bydd y gweddill yn mynd at dalu grantiau strategol a’r arian sy’n mynd i’r sefydliadau addysg yn ôl faint o fyfyrwyr sydd yno a meini prawf eraill.