Llun: Necrothesp, Wikipedia
Mae timau arbenigol yn parhau i chwilio heddiw am ddyn a aeth ar goll brynhawn ddoe ar ôl i gaiac droi drosodd ar Lyn Tegid, y Bala.

Roedd dyn a phlentyn a oedd hefyd yn y caiac wedi llwyddo i gyrraedd y lan a chafon nhw eu cymryd i Ysbyty Maelor Wrecsam i gael gofal.

Mae’r RAF, tim chwilio ac achub gogledd-ddwyrain Cymru, ac uned ddŵr gwasanaeth tân Gogledd Cymru wedi bod yn rhan o’r chwilio ers i’r gwasanaethau brys gael eu galw tua 5.30 brynhawn ddoe.