Mae disgwyl i ymgyrchwyr ymgasglu y tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw i brotestio yn erbyn toriadau i wasanaethau llyfrgelloedd ar draws Cymru.

Bydd y brotest yn cael ei harwain gan Grŵp Cefnogi Llyfrgell Rhydfelen, sydd wedi cyhuddo cynghorau ledled Cymru o wneud toriadau afresymol i wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus.

Mae nifer o awdurdodau lleol ar draws y wlad wedi gorfod cwtogi ar eu cyllidebau yn ystod y misoedd diwethaf, gyda llyfrgelloedd ymysg y gwasanaethau dan fygythiad mewn rhai ardaloedd.

Yn ôl y grŵp fe fydd y toriadau’n taro’n arbennig o wael yn ardal Rhondda Cynon Taf, ble mae’r cyngor wedi dweud eu bod yn bwriadu cau dros hanner llyfrgelloedd y sir.

Fe fydd y protestwyr ar risiau’r Senedd rhwng 10.30yb a 12.00yp gyda baneri a phlacardiau yn galw ar i’r toriadau i wasanaethau gael eu gwyrdroi, gyda disgwyl y bydd Aelodau Cynulliad yn dod allan i gyfarfod â nhw.

Mae hefyd disgwyl i Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru John Griffiths, sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd, ddod i sgwrsio â’r ymgyrchwyr ynglŷn â’u pryderon.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd y Gweinidog nawdd o £2.2 miliwn i hybu’r defnydd o amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru.

A nôl ym mis Mawrth fe gyhoeddwyd y byddai cardiau llyfrgell yn cael eu dosbarthu am ddim i blant cynradd ar hyd a lled y wlad.