Cynulliad
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dathlu ei ben blwydd yn 15 oed heddiw ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi nodi’r achlysur wrth ymosod ar record Llafur ym Mae Caerdydd.

Mae Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi cyhuddo’r blaid Lafur o danseilio ffydd llawer o bobl mewn datganoli.

Yn y 15 mlynedd diwethaf, meddai Kirsty Williams, mae system addysg Cymru wedi gostwng yn ddramatig yn y safleoedd rhyngwladol; anaml iawn mae gwasanaeth iechyd Cymru yn cyrraedd eu targedau; ac mae economi Cymru’n parhau i lusgo y tu ôl i weddill y DU.

Meddai Kirsty Williams AC: “Rwy’n falch fod gan ein cenedl ei Gynulliad Cenedlaethol ei hun. Mae rhyddfrydwyr wedi  ymgyrchu dros Gymru i  gael ei senedd ei hun ers degawdau. Ond eto, rwy’n ofni bod methiannau Llafur yn tanseilio ffydd llawer o bobl mewn datganoli.

” Mae Cymru angen newid radical – newid a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach.”

Angen mwy o ACau

Wrth nodi’r achlysur dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, bod datblygiad y Cynulliad wedi bod yn “ddramatig” a bod gan y sefydliad “gefnogaeth helaeth y bobl y mae’n eu cynrychioli.”

Ond meddai hefyd bod angen cynyddu nifer Aelodau’r Cynulliad o 60 i 80 aelod.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: “O ystyried pwysau’r cyfrifoldeb sydd ar ysgwyddau’r sefydliad, a’r pwysau gwaith anochel y mae Aelodau’n ei wynebu, nid oes gennyf amheuaeth y dylid cynyddu nifer Aelodau’r Cynulliad o 60 i 80.”

Cerrig filltir

Mae sawl peth wedi digwydd dros y 15 mlynedd diwethaf, ond dyma rai o gerrig filltir Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1999 – Daeth 60 Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Gyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad ar y diwrnod yma yn 1999.

2003 – Cynulliad yn ethol yr un nifer o fenywod a dynion i’r Cynulliad

2006 – Deddf Llywodraeth Cymru: pwerau deddfu am y tro cyntaf

2007- Mesur cyntaf y Cynulliad

2011- Pleidlais Ie yn y refferendwm ar bwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol

2012 – Y Cynulliad yn pasio ei Ddeddf gyntaf erioed – Mesur Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

2012 – Cydnabod y Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol y Cynulliad drwy’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol