Mae dyn 62 oed wedi marw ar ôl i’w gar daro wal neithiwr yn Sir Benfro.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A478 rhwng Arberth a Begeli ychydig cyn 11 o’r gloch.

Roedd y dyn yn byw yn lleol ac ef oedd yr unig berson yn y car.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am fwy o wybodaeth gan bobol oedd yn teithio ar hyd y ffordd neithiwr.