Tom Maynard
Bydd noson arbennig yn cael ei chynnal yng nghae criced yr Oval yn Surrey heno i godi arian at Ymddiriedolaeth Tom Maynard.

Cafodd mwy na £50,000 ei godi yn y ddawns flynyddol gyntaf y llynedd.

Bydd cyflwynydd rhaglenni chwaraeon y BBC, John Inverdale yn annerch y gynulleidfa tua diwedd y noson, ac mae disgwyl i sêr y byd criced, rygbi a’r Gemau Olympaidd fod yn bresennol.

Cyn-gyflwynwraig ‘Take Me Out: The Gossip’, Zoe Hardman a chyflwynydd y BBC, Michael Absolom fydd yn llywio’r digwyddiad.

Ymhlith y gwesteion sydd wedi cadarnhau y byddan nhw’n bresennol mae capten tîm rygbi Lloegr Chris Robshaw, cyn-fowliwr tîm criced Lloegr Darren Gough a’r cyn-nofiwr Olympaidd Duncan Goodhew.

Ar ddiwedd y noson, bydd parti yn cael ei gynnal yn y ‘Lucky Pig’ yn Llundain, sydd wedi mynd ati gynhyrchu coctel arbennig i nodi’r achlysur.

‘Cyfle i gofio Tom’

Mewn datganiad, dywedodd Ymddiriedolaeth Tom Maynard fod y noson yn “gyfle i gofio Tom a dathlu’i fywyd ac i barhau â gwaddol y byddai wedi bod yn falch ohoni”.

Bu farw’r cricedwr ifanc yn 23 oed yn 2012.

Cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu yn enw cyn-fatiwr Morgannwg a Surrey i godi arian i gynnig cyfleoedd i gricedwyr ifanc difreintiedig.

Ysgoloriaeth

Mae Ysgoloriaeth Tom Maynard bellach wedi cael ei sefydlu hefyd i roi’r cyfle i un o sêr chwaraeon y dyfodol fynd i Ysgol Millfield lle cafodd Tom ei addysgu, ac fe fydd elw’r noson yn mynd at yr ysgoloriaeth.

Y tymor hwn, mae crysau tîm Morgannwg yn dwyn enw’r Ymddiriedolaeth ar y blaen, ac fe fydd gêm ugain pelawd arbennig yn cael ei chynnal yng nghlwb criced Sain Ffagan ar Fehefin 27.

Ymhlith yr enwogion sydd wedi cadarnhau y byddan nhw’n chwarae mae’r cricedwyr Andrew Flintoff ac Ian Harvey a chapten tîm T20 Morgannwg Jim Allenby, y paffiwr Joe Calzaghe, cyn-gefnwr rygbi’r Gleision a Chymru Rhys Williams, a thad Tom a’r cyn-gricedwr, Matthew Maynard.