Mae cleifion sy’n dioddef o asthma yn marw’n ddiangen oherwydd gofal gwael, yn ôl adroddiad beirniadol.

Roedd arbenigwyr wedi nodi “ffactorau sylweddol y gellir fod wedi’u hosgoi” mewn dwy ran o dair o farwolaethau o ganlyniad i asthma, neu’r fogfa.

Yn ôl yr adroddiad, dyw cleifion ddim yn cael digon o wybodaeth, addysg na chyngor sut i reoli asthma.

Yn ogystal, mae  meddygon yn methu ag adnabod arwyddion pwysig sy’n dangos nad yw cleifion yn llwyddo i reoli’r cyflwr.

Mae’r ffactorau hyn yn arwain at nifer fawr o farwolaethau a allai gael eu hosgoi, meddai’r adroddiad.

Yn y DU, mae tri o bobl yn marw o asthma bob dydd a phob 10 eiliad mae rhywun yn dioddef pwl a allai bygwth bywyd.

Roedd arbenigwyr o Goleg Brenhinol y Meddygon wedi ymchwilio i 195 o farwolaethau o ganlyniad i asthma, gan gynnwys 28 o blant.

‘Trist iawn’

Dywedodd y meddyg teulu Dr Mark Levy, fu’n arwain yr ymchwil i’r adroddiad: “Mae’n drist iawn nad yw pobl yn ymwybodol bod asthma yn gallu lladd.

“Fe wnaethon ni adnabod ffactorau pwysig y gellid fod wedi’u hosgoi mewn 67% o’r achosion o bobl fu farw.”

Roedd yr adolygiad wedi darganfod bod y cleifion fu farw wedi defnyddio eu hanadlydd yn ormodol yn ystod y misoedd yn arwain at eu marwolaeth – sy’n awgrymu nad oedden nhw’n rheoli’r cyflwr yn dda.

Fe ddylai meddygon fod wedi cymryd camau os oedd y cleifion yn gofyn am bresgripsiynau am anadlydd yn gyson, meddai’r adroddiad.

Presgripsiynau

Yn ôl yr elusen Charity Asthma UK roedd ’na gamgymeriadau mewn presgripsiynau mewn 47% o’r marwolaethau a gafodd eu hymchwilio.

Mae’r adroddiad, sy’n cael ei ryddhau ar Ddiwrnod Asthma’r Byd, yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer gweithwyr gofal iechyd gan gynnwys system sy’n rhoi gwybod i feddygon a fferyllwyr pan mae cleifion yn defnyddio eu pwmp anadlu yn ormodol.

Mae hefyd yn argymell y dylai unrhyw un sy’n mynd i’r ysbyty ar frys gael eu hadolygu o fewn 48 awr ac y dylid gwneud mwy i addysgu pobl am y cyflwr.

Mae 5.4 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o’r cyflwr.