Y caws twll chwarel
Mae Hufenfa De Arfon wedi creu math newydd o gaws Cheddar – sy’n cael ei gadw 500 troedfedd o dan y ddaear mewn chwarel er mwyn ei aeddfedu.

Mae’r caws yn cael ei gludo o Hufenfa De Arfon ger Pwllheli i Geudwll Llechwedd yng nghanol Eryri a’i adael yno i aeddfedu nes ei fod yn 14 mis oed.

Mae’r dull yma o aeddfedu caws wedi cael ei ddefnyddio ers canrifoedd yn Ffrainc ac yn ôl y cwmni, mae’n rhoi blas mwy cadarn a chyfoethog i’r cynnyrch.

Mae dull tebyg  hefyd yn cael ei ddefnyddio i aeddfedu caws ym mhwll glo’r Pwll Mawr ym Mlaenafon.

Cafodd y caws ei ddatblygu yn benodol i Sainsburys a bydd pecyn 200g yn cael ei lansio yn amrywiaeth ‘Taste the Difference’ Sainsbury yn gynnar yn Hydref 2014.

Treftadaeth Gymreig

“Rydym wedi gweithio gyda Sainsbury i ddatblygu cheddar sy’n wirioneddol yn unigryw ac yn gwrthdystio ein treftadaeth Gymreig,” meddai Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon.

“Mae’n dechneg aeddfedu arbennig ac rydym yn hapus iawn gyda’r safon ac yn hyderus y bydd ein caws yn profi llwyddiant mawr.