Carwyn Jones
Mae 66% o gyflogwyr yng Nghymru yn cyflogi staff sy’n medru siarad y Gymraeg, yn ôl arolwg newydd.

Comisiynwyd yr arolwg gan Lywodraeth Cymru ac mae’n dangos gwahaniaethau mawr rhwng agweddau cyflogwyr mewn gwahanol ardaloedd a sectorau.

Cyflogwyr yn y Gogledd ac yn y sector gofal plant oedd fwyaf tebygol o deimlo bod sgiliau yn y Gymraeg yn bwysig ond fel arall, nid oedd y mwyafrif o gyflogwyr erioed wedi chwilio am gyfleoedd hyfforddiant i wella Cymraeg eu gweithwyr.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, wedi croesawu’r adroddiad ond yn dweud fod angen mwy o gyfleoedd i weithwyr ddefnyddio neu ddysgu’r iaith.

Cymorth i fusnesau

“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r cysylltiad rhwng yr economi a’r iaith yn yr ymdrechion i sicrhau dyfodol i’r iaith,” meddai Carwyn Jones, “a bydd casgliadau’r arolwg hwn yn ein helpu i roi’r cymorth priodol i fusnesau ac i weithwyr yn y dyfodol.

“Ond ar hyn o bryd, does dim digon o gyfleoedd i weithwyr ddefnyddio neu ddysgu’r iaith, ac mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid ei newid.

“Mae’r sgil o allu defnyddio’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr, a dylid hyrwyddo hyfforddiant yn y Gymraeg sy’n berthnasol i’r gweithle.”

Manteision

Ychwanegodd y Gweinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: “Mae’n hanfodol sicrhau bod ein cyflogwyr yn gwybod am y manteision a ddaw o ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd – waeth beth yw lefel eu gallu.

“Efallai byddai’n bosibl newid lefel y buddsoddi y bydd ei angen o du’r cyflogwr os bydd y cymhwyster yn debygol o gael effaith bositif ar y defnydd o’r Gymraeg.

Yn ôl y Llywodraeth, mi fydd casgliadau’r adroddiad yn gymorth i gynllunio hyfforddiant ôl-16 priodol, sy’n cynnwys  darparu mwy o brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.