Rhys Ifans
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi bod yr actor Rhys Ifans, y cyfarwyddwr Kevin Allen a’r cerddor Julian Cope  ymhlith y rhai fydd yn ymddangos yn yr adran Celfyddydau a Diwylliant ym mhentref Portmeirion eleni.

Fe fydd yr awdur Charlie Higson, y comedïwr Sara Pascoe, y nofelydd Jonathan Meades hefyd yn rhan o’r wyl sy’n cael ei chynnal ar benwythnos 5-7 Medi eleni.

Mae’r artistiaid yn ymuno hefo Beck, London Grammar, Martha & the Vandellas a Chôr y Brythoniaid sydd ymysg enwau eraill sydd wedi cael eu cadarnhau gan drefnwyr yr wyl.

Fe fydd y ffilm Twin Town, sy’n cynnwys yr actorion Rhys Ifans a Llyr Ifans ac sydd wedi ei gyfarwyddo gan Kevin Allen, yn cael ei dangos yn ogystal â theyrnged i fywyd Dylan Thomas.

Roedd yr ŵyl yn llwyddiant ysgubol y llynedd, gyda’r Manic Street Preachers yn cymryd eu lle ar y prif lwyfan i ddiddanu cynulleidfa o tua 7,000.

Mae mwy o artistiaid eto i’w cyhoeddi ond dyma linc i weld yr enwau sydd wedi eu cadarnhau hyn yn hyn: <https://www.facebook.com/photo.php?fbid=551413911623356>